Cyhoeddi amserlen penwythnos yr Ŵyl AmGen
- Cyhoeddwyd

Dyma ddatgelu amserlenni arbennig Radio Cymru a Radio Cymru 2 yn ystod yr Ŵyl AmGen sy'n dechrau nos Iau, 30 Gorffennaf.
Cymru Fyw fydd cartref ar-lein yr ŵyl, ble bydd modd darganfod uchafbwyntiau'r digwyddiadau eleni ac ail fyw perfformiadau o archif yr Eisteddfod Genedlaethol.
Fe fydd yr arlwy yn cynnwys cyngherddau nosweithiol, cerddoriaeth, perfformiadau, celfyddydau, dramâu, a thrafodaethau.
Nos Iau 30 Gorffennaf
Bydd cyngerdd Gwerin o Gartef yn agor yr ŵyl nos Iau gyda pherfformiadau gan Bwncath, Gwilym Bowen Rhys, Lleuwen Steffan a No Good Boyo.
Dydd Gwener 31 Gorffennaf
Bryn Fôn fydd a'i fand Bryn Bach fydd yn cynnal cyngerdd nos Wener yr ŵyl, gyda pherfformiad arbennig wedi'i recordio yn stiwdio Sain.

Toda Ogunbanwo, Llywydd dydd Gwener yr ŵyl. Bydd ei anerchiad i'w glywed yn ystod rhaglen 'Ar y Maes' gyda Tudur Owen a Beti George.
Dydd Sadwrn 1 Awst
Daniel Evans a Shân Cothi fydd yn ein tywys drwy gyngerdd nos Sadwrn, ble bydd Rhys Taylor a'i fand '50 Shêds o Lleucu Llwyd' a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn creu 12 fersiwn newydd sbon o glasuron sioeau cerdd Cymraeg.
Dydd Sul 2 Awst
Ymysg uchafbwyntiau'r dydd Sul bydd Dewi Llwyd yn edrych ymlaen at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2021, tra fod Radio Cymru 2 yn dathlu penblwydd Geraint Jarman yn 70 oed.
Fe fydd digwyddiadau AmGen yna'n parhau ar ôl y penwythnos ar wefan yr Eisteddfod a Cymru Fyw, gyda digonedd o berfformiadau, cyngherddau a thrafodaethau difyr i'w darganfod drwy gydol yr wythnos.