Meysydd chwarae a champfeydd awyr agored i ailagor
- Cyhoeddwyd

Mae sawl campfa wedi symud eu hoffer i fod tu allan
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cadarnhau y bydd meysydd chwarae, ffeiriau, canolfannau cymunedol a champfeydd awyr agored yn ailagor ddydd Llun
Dyma ail ran pecyn o fesurau i ailagor rhannau o'r sectorau twristiaeth, lletygarwch a hamdden yng Nghymru.
Wrth lacio'r cyfyngiadau ymhellach dywedodd Mark Drakeford: "Gyda chyfraddau'r feirws yn dal i gwympo yng Nghymru, gallwn barhau i raddol godi'r cyfyngiadau, gam wrth gam.
"O ddydd Llun, bydd meysydd chwarae a champfeydd awyr agored yn cael ailagor.
"Bydd canolfannau cymunedol yn cael cynnal mwy o weithgareddau gan gynnwys helpu awdurdodau lleol i gynnal cynlluniau chwarae a gofal plant dros wyliau'r haf.
"Bydd ffeiriau hefyd yn cael ailagor gan eu bod wedi cael amser i feddwl sut i roi mesurau priodol ar waith cyn bod eu cwsmeriaid yn dychwelyd. Hyn oll ar ôl ailagor atyniadau dan do ac awyr agored yn yr wythnosau diwethaf."

Bydd parciau chwarae yn cael ailagor ddydd Llun
Ond pwysleisiodd y Prif Weinidog nad oes gorfodaeth ar y canolfannau yma i ailagor.
'Y feirws dal yma'
Yn ystod y gynhadledd heddiw hefyd fe wnaeth y Prif Weinidog gydnabod bod dros 2,400 o fobl yng Nghymru wedi marw o'r haint, bod sawl un wedi colli bywoliaeth a bod yr haint wedi cael effaith ar addysg plant ond bod Cymru wedi llwyddo i osgoi y gwaethaf wrth iddynt lynu at y rheolau.
Yn ogystal diolchodd Mark Drakeford i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus am wneud cymaint i'n cadw'n ddiogel yn ystod y misoedd anodd.
"Yn ystod diwrnodau tywyll mis Ebrill roedd 390 achos positif bob dydd," meddai, "ddoe dim ond 18 achos a gofnodwyd er bod dros 4,000 o brofion wedi'u cynnal. Dim ond 10 claf sydd bellach mewn uned gofal dwys ac mae y rhif R yn rhy fach i'w fesur.
"Ry'n hefyd wedi cynyddu ein gallu i brofi - mae modd cynnal 15,000 o brofion yng Nghymru bellach. Pan oedd yr haint ar ei waethaf roedd 43% o achosion yn bositif - mae'r nifer hwnnw bellach wedi gostwng i 0.5%."
Ychwanegodd: "Gallai pryd yn union maen nhw'n ailagor amrywio wrth i berchenogion asesu'u sefyllfa a gwneud y newidiadau angenrheidiol.
"Wrth i ni gymryd y camau gofalus hyn, peidiwch da chi â meddwl bod y feirws wedi gadael y tir. Gallai'n holl waith caled fynd yn ofer yn rhwydd iawn os na wnawn ni ddal ati i wneud ein rhan ym mhob ffordd i gadw Cymru'n ddiogel."

Adolygiad nesaf?
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gofyn i nifer o fusnesau eraill ddechrau paratoi ar gyfer ailagor o 27 Gorffennaf, os bydd amodau'n caniatáu. Y busnesau hynny yw:
salonau harddwch ac ewinedd a busnesau lliw haul, massage, tyllu'r corff, tatŵs, electrolysis ac aciwbigo;
sinemâu, amgueddfeydd, orielau ac archifdai dan do;
llety i dwristiaid, â chyfleusterau wedi'u rhannu, fel meysydd pebyll (yn cael agor o 25 Gorffennaf);
y farchnad dai'n llawn.
Os bydd y sectorau hyn yn ailagor yn llwyddiannus a bod amodau'n caniatáu, bydd lleoedd dan do fel tafarndai, bariau, caffis a bwytai'n cael ailddechrau o 3 Awst yn dilyn yr adolygiad nesaf o reoliadau'r coronafeirws.
Cymru i elwa?
Wrth gael ei ei holi am gyhoeddiad Boris Johnson o £3bn yn ychwanegol dywedodd Mr Drakeford nad yw'n gwybod eto a fydd Cymru'n elwa.
Atebodd: "Dydyn ni ddim yn gwybod eto, rhaid aros i weld. Nid yw'r prif weinidog wedi gwneud y cyhoeddiad eto.
"Ry'n ni wedi dysgu i edrych ar y print mân ar gyhoeddiadau fel hyn.
"Os daw'r arian i'r gwasanaeth iechyd [yn Lloegr], yna iechyd a gofal cymdeithasol fydd yn cael yr arian yna yng Nghymru."
Cynhadledd ddyddiol olaf
Cyhoeddodd Mr Drakeford hefyd newid i'r drefn o safbwynt y gynhadledd newyddion.
Ni fydd cynhadledd ddyddiol o hyn ymlaen. Yn hytrach, fe fydd cynhadledd wythnosol bob dydd Mawrth, ac un ychwanegol ar ddyddiau Gwener yn ystod wythnosau adolygu cyfyngiadau, sef bob tair wythnos.
Bydd y gynhadledd wythnosol nesaf felly ar ddydd Mawrth, 21 Gorffennaf, a'r gynhadledd adolygu nesaf ar ddydd Gwener, 31 Gorffennaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2020