Ail-drefnu cabinet cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Paul Davies wedi ail-drefnu ei lefarwyr yn Senedd Cymru.
Bydd cyn arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn lefarydd ar iechyd, yn lle Angela Burns AS.
Mae hi wedi cyhoeddi na fydd hi'n sefyll eto yn yr etholiad nesaf yn 2021, ac mae hi wedi derbyn swydd newydd yn canolbwyntio ar sut i ail-ffurfio gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i bandemig Covid-19.
Mae Nick Ramsay, sydd wedi cael yr hawl i ail-ymuno gyda'r blaid yr wythnos hon, yn parhau i fod yn lefarydd ar gyllid.
Cafodd Mr Ramsay ei wahardd o'r blaid am gyfnod wedi iddo gael ei arestio a'i ryddhau'n ddi-gyhuddiad fis Ionawr.
Roedd wedi ail-ymuno gyda grŵp y Ceidwadwyr yn y Senedd yn barod.
Aelod newydd
Yr AS newydd dros De Ddwyrain Cymru, Laura Anne Jones, fydd llefarydd y blaid ar faterion plant, pobl ifanc a chydraddoldeb. Daeth hi'n aelod o'r Senedd am yr eildro yn dilyn marwolaeth Mohammad Asghar.
Janet Finch-Saunders yw llefarydd newydd y blaid ar newid hinsawdd, ynni a materion gwledig.
Russell George fydd y llefarydd ar yr economi, busnes ag isadeiledd, ac mae Mark Isherwood yn parhau i fod yn lefarydd ar lywodraeth leol, tai a chymunedau.
Wrth drafod penodiad newydd Ms Burns fel llefarydd yn blaid ar "effeithlonrwydd a gwytnwch llywodraethol", dywedodd Mr Davies: "Roedd Angela Burns yn lefarydd ar iechyd, addysg a chyllid ymysg portffolios eraill yn y gorffennol, sydd yn ei gwneud, ynghyd a'i phrofiad busnes helaeth, mewn lle unigryw i ymgymryd gyda'r gwaith yma."
"Rwyf wedi gofyn iddi am feddwl yn radical a chreadigol am ffyrdd y gall y llywodraeth yng Nghymru ostwng dyblygu, osgoi gweithio mewn seilo a chwtogi ar wastraff, ac rwyf wrth fy modd fod gwleidydd o'i phrofiad a'i statws wedi cytuno i dderbyn y swydd allweddol hon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2020