Llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn gadael Senedd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Angela Burns
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd Angela Burns yn sefyll yn etholiad mis Mai nesaf

Mae'r Aelod Senedd Ceidwadol, Angela Burns, wedi cyhoeddi na fydd yn sefyll yn etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

Fe gafodd yr aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ei hethol gyntaf yn 2007, a hi yw llefarydd y Ceidwadwyr dros iechyd ym Mae Caerdydd.

Mewn datganiad dywedodd: "Rhaid i bopeth da ddod i ben, ac mae'n bryd i mi gael her ffresh a phrofiadau newydd."

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Paul Davies ei bod "wedi gwneud cyfraniad sylweddol iawn i fywyd gwleidyddol Cymru".

Ychwanegodd bod hyn yn arbennig o wir wrth siarad dros ei phlaid ar iechyd "yn ystod y pandemig yma" ac y byddai Ms Burns "yn parhau i wneud cyfraniadau gwerthfawr am weddill ei chyfnod fel aelod".

Dywedodd y Gweinidog Iechyd (Llafur) Vaughan Gething ar ei gyfrif Twitter: "Nid wyf yn cytuno gydag Angela Burns ar bopeth, ond rwy'n parchu ei hymrwymiad a'i chyfraniad i fywyd cyhoeddus sy'n mynd ymhell tu hwnt i'w phlaid.

"Rwy'n dymuno'n dda iddi ym mha bynnag beth y mae'n dewis gwneud ar ôl etholiad nesa'r Senedd."