Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-0 Bristol City

  • Cyhoeddwyd
AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Cymro Connor Roberts sgoriodd unig gôl y gêm yn Stadiwm Liberty

Mae gobeithion Abertawe o gyrraedd y gemau ail gyfle yn y Bencampwriaeth yn parhau wedi iddyn nhw drechu Bristol City ddydd Sadwrn.

Aeth yr Elyrch ar y blaen reit ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gyda'r Cymro Connor Roberts yn sgorio wedi i ergyd Conor Gallagher daro'r postyn.

Cafodd yr ymwelwyr gyfle i ddod yn gyfartal gydag 20 munud yn weddill wrth i Famara Diédhiou ennill cic o'r smotyn, ond fe darodd y postyn gyda'i ergyd.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe dri phwynt o safleoedd y gemau ail gyfle gydag un gêm yn unig yn weddill o'r tymor.

Mae gweddill canlyniadau dydd Sadwrn yn golygu y bydd o leiaf un tîm o Gymru yn rhan o'r gemau ail gyfle.

Er mwyn ennill eu lle yn y chwech uchaf bydd yn rhaid i Abertawe drechu Reading yng ngêm ola'r tymor a gobeithio bod Caerdydd yn colli yn erbyn Hull.