'Cam yn ôl' mewn ymchwil canser oherwydd Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae cefnogaeth ar-lein yn helpu cynnal cleifion fel Caryl Davies mewn ardaloedd gwledig

Mae elusen Macmillan Cymru yn poeni bod coronafeirws wedi achosi cam mawr yn ôl mewn ymchwil canser.

Fe ddaw gyda'r oedi mewn diagnosis, sgrinio a thrin cleifion canser dros y cyfnod clo.

Yn ôl un claf cancr, mae'r pandemig wedi ychwanegu at deimladau o unigrwydd i'r rheiny sy'n dioddef.

Mae elusennau wedi gorfod troi at y we i geisio cefnogi unigolion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe gafodd Caryl Davies, sy'n 33 oed ac yn byw yn Nhrefach yng Ngheredigion, ddiagnosis o ganser y fron ym mis Mai.

Mae'n disgrifio'r profiad o gael diagnosis mewn cyfnod clo fel un "tywyll iawn."

"Dyw'r ffaith bod chi'n gorfod aros adref ddim yn help pan chi'n mynd trwy hyn," meddai.

'Canser, canser, canser'

Ar ôl clywed am yr oedi mewn cael diagnosis yn sgil Covid-19, fe benderfynodd gael triniaeth breifat er mwyn sicrhau diagnosis cyflym.

"Dwi wedi bod yn canser, canser, canser - yn 'y mhen i.

"Yn ffodus iawn, dwi wedi gallu cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau ar-lein. Mae hwnnw wedi bod yn bositif iawn mewn dysgu technegau ymdopi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cleifion mewn ardaloedd gwleidig yn aml yn wynebu teithiau hir ar gyfer apwyntiadau meddygol

Mae Breast Cancer Haven wedi bod yn cefnogi Caryl Davies dros yr wythnosau diwethaf.

"Fel rhywun sy'n byw bron i dair awr o'r sesiynau agosaf, bydden ni byth wedi cael mynediad i'r gefnogaeth yna cyn y cyfnod clo."

Mae'n fam i ddau o fechgyn, ac yn edrych tua'r dyfodol gyda gobaith gofalus iawn.

"Fi ffili edrych 'mla'n ar hyn o bryd.

"Mae pethau'n digwydd dros nos, ac mae bywyd yn newid fel 'na. Dwi'n trio bod yn bositif a chymryd un dydd ar y tro."

Osgoi mynd i'r meddyg

Mae Richard Pugh, pennaeth Macmillan yng Nghymru, o'r farn bod y misoedd diwethaf yn "gam mawr yn ôl".

Yn ôl Macmillan, mae pryder am y rheiny sydd wedi osgoi mynd i'r afael â'u symptomau yn ystod y cyfnod clo.

Disgrifiad o’r llun,

Gall oedi cyn cael diagnosis a thiniaeth fod â goblygiadau mawr, medd Richard Pugh o Macmillan Cymru

"Mae'n bryder mawr bydd cynnydd yn nifer y bobl fydd yn cael diagnosis o ganser ar ôl y cyfnod clo," meddai.

"Dros dri mis, mae pobl wedi osgoi mynd at eu meddyg. Mae canser yn gallu mynd o rywbeth ni'n gallu trin i rywbeth ni methu neud dim ar ei gyfer yn yr amser yna.

"Mae llawer o bobl wedi marw o ganser dros y cyfnod yma, ond ni ddim yn clywed amdanyn nhw achos Covid.

"Bydd hyn yn gam mawr yn ôl i ymchwil canser eleni, y flwyddyn nesaf ac ar ôl hynny."