Arestio dau mewn cysylltiad â marwolaeth plentyn 2 oed

  • Cyhoeddwyd
heddlu

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi arestio dau berson yn dilyn marwolaeth plentyn dwy flwydd oed.

Cafodd yr heddlu eu galw i gyfeiriad yn Hwlffordd fore Gwener, 17 Gorffennaf.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu ddydd Mawrth: "Yn drasig, bu farw'r plentyn yn yr ysbyty heddiw.

"Mae'n meddyliau gyda'r teulu ar yr adeg anodd yma.

"Mae'r teulu'n cael cefnogaeth gan swyddogion heddlu arbenigol.

"Mae dau berson wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod ac esgeulustod, ac mae'r ymchwiliad yn parhau."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.