'Cyfnod anhygoel fel bugail yn Sandringham'
- Cyhoeddwyd
Dywed merch o Geredigion ei bod wedi cael "cyfnod anhygoel fel bugail yn Sandringham".
Mae tymor Sian Downes o Langeitho newydd ddod i ben ac i nodi diwedd ei chyfnod fe seiclodd hi ac eraill i Aberystwyth er mwyn codi arian at achosion da.
"Gweld y swydd yn cael ei hysbysebu tra'n cwblhau fy nghwrs ym Mhrifysgol Harper Adams wnes i a meddwl y buaswn yn mynd amdani - dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn defaid. Dyma fynd amdani a'i chael hi," meddai Sian.
"Do fe ddysgais i lot fawr yn ystod fy nghyfnod o 22 mis - roedd e'n fraint i gael y swydd - ond rwy' hefyd yn sylweddoli faint mwy sydd gen i ddysgu.
"Doedd y ffaith bo' fi yn Sandringham ddim yn gwneud cymaint â hynny o wahaniaeth - i fi fferm dda yw fferm dda.
"Ro'n i'n cael cip ar y teulu brenhinol weithiau pan oeddynt yn ymweld a fues i'n siarad â'r Tywysog Charles ychydig - mae gydag e ddiddordeb mawr mewn defaid yn enwedig yn nefaid Aberfield sy'n wreiddiol o Gymru, wrth gwrs.
"Iddo fe roedd y tîm yn atebol - ac roeddwn i yn un mewn nifer. Wedi arfer gyda defaid Poll Dorset ro'n i fwyaf, ond nawr dwi wedi cael cyfle i ehangu fy ngwybodaeth.
"Roeddwn yn edrych ar ôl oddeutu 3,000 o ddefaid i gyd - amser wyna wrth gwrs oedd y cyfnod mwyaf prysur ac fe ddigwyddodd hynny tu fas ym mis Ebrill.
"Nes i ddim sylweddoli beth oedd y cyfnod clo tan i'r wyna ddod i ben."
Roedd Sian yn byw ryw bum milltir o Sandringham ac fel un sydd wedi bod yn aelod brwd o fudiad y Ffermwyr Ifanc fe ymunodd â chlwb Downham Market ond roedd hi'n parhau i fod yn aelod yng nghlwb Llangeitho hefyd.
"Doeddwn i ddim yn adnabod neb cyn mynd ond des i 'nabod pobl yn dda iawn a gwneud ffrindiau newydd."
Codi arian i gofio am mam-gu
Roedd Sian yn gorffen ei thymor mewn pryd ar gyfer y Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd ond gan nad oedd sioe eleni fe benderfynodd hi a'i brawd hynaf, Daniel, ac eraill seiclo o Sandringham i Aberystwyth - taith o 257 milltir mewn dau ddiwrnod.
"I ddweud y gwir doeddwn i ddim wedi ymarfer bron ddim - 74 milltir unwaith a ryw 50 wythnos cynt ond fe 'naethon ni seiclo 158 o filltiroedd y diwrnod cyntaf gan ddechrau am 5 y bore a gorffen toc wedi 6 y nos.
"Ond y darn anoddaf o ddigon oedd rhwng Caersŵs a Llangurig - roedd hwnnw yn ofnadwy ac roeddwn yn gwybod bod y ffordd rhwng Eisteddfa Gurig a Phonterwyd o fy 'mlaen a neis iawn oedd cyrraedd Aberystwyth."
Mae Sian a'r tîm yn codi arian at amrywiol elusennau - yn eu plith ward y galon, Ysbyty Bronglais, lle bu farw ei mam-gu ym mis Mehefin.
Ond fydd yna ddim gorffwys i Sian - mae'n dechrau ar swydd newydd ddydd Llun a fydd yn ei galluogi i weithio eto gydag anifeiliaid a flwyddyn nesaf mae'n mynd am rai misoedd i Seland Newydd wedi iddi ennill ysgoloriaeth Ffermwyr Ifanc.
"Dwi'n edrych ymlaen at bob her," meddai Sian, "ac yn diolch yn arbennig am y cyfle ges i yn Sandringham."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2019