Dafydd Iwan yn cwrdd â'r Tywysog Charles am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae'r ymgyrchydd iaith, Dafydd Iwan, fu'n protestio yn erbyn yr Arwisgiad Brenhinol ym 1969, wedi cyfarfod a'r Tywysog Charles am y tro cyntaf.
Fe wnaeth y ddau gwrdd yn breifat ddydd Llun, 1 Gorffennaf, fel rhan o raglen ddogfen yn edrych yn ôl ar y digwyddiad Brenhinol yng Nghastell Caernarfon 50 mlynedd yn ôl.
Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Mr Iwan: "Rwy'n falch ein bod wedi cwrdd; mae gen i gryn barch at y dyn hwn, nid fel Tywysog Cymru ac nid fel aelod o'r Teulu Brenhinol ond fel y dyn sy'n angerddol am yr hyn y mae'n ei gredu ynddo.
"Rwy'n weriniaethwr o hyd, fydda i byth yn frenhinwr, ond mae gan Charles a minnau fwy yn gyffredin nag oeddwn yn ei dybio."
Dafydd Iwan oedd un o arwyr y mudiad iaith adeg yr Arwisgo, ac fel Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg gafodd ei dynnu i mewn i'r ddadl ynglŷn â'r Arwisgiad.
Cafodd ei anniddigrwydd tuag at y sefydliad Brenhinol eu cofnodi yn ei ganeuon protest dychanol, 'Carlo' a 'Croeso Chwedeg-Nain'.
"Yr ymateb i'r protestio yn erbyn yr Arwisgiad oedd y casineb mwyaf dwi 'di ei weld erioed mewn gwleidyddiaeth," meddai.
"Mi roedd pethau ffiaidd yn cael eu dweud a fy mywyd yn cael ei fygwth yn llythrennol ar bapur ac ar lafar, ac yn anffodus roedd Charles yn cael ei roi i fyny fel symbol o burdeb a pherffeithrwydd a finna' yn cael fy ngosod fel y diawl a'r gelyn cyhoeddus pennaf felly."
Dim drwgdeimlad
Mae Dafydd Iwan wedi cael sawl gwahoddiad i gwrdd â Thywysog Cymru ond bob amser wedi gwrthod y cyfle, ond yr wythnos hon fe gyfarfu'r ddau yn Llwynywermod ger Llanymddyfri, cartref Tywysog Cymru yng Nghymru.
Yn y rhaglen mae'n cydnabod ei fod yn rhannu llawer o ddiddordebau a gwerthoedd gyda'r Tywysog megis cadwraeth a dyfodol ecolegol y blaned, cyfleoedd i bobl ifanc, yn ogystal â thirwedd Cymru.
Er ei fod yn pwysleisio nad yw wedi newid ei feddwl ar y frenhiniaeth, mae'n credu'n gryf bod deialog heddychlon yn hollbwysig.
"Y peth pwysicaf yw fy mod i wedi cael cyfle i ddangos nad yw'r ffaith fy mod i'n gwrthwynebu i'r frenhiniaeth yn rheswm i gasáu rhywun," meddai. "Mae'n bwysig ein bod yn gallu byw gyda'n gilydd.
"Mae'n gyfle i ddangos ei bod hi'n bosibl anghydweld heb fod yna ddrwgdeimlad a'n bod yn gallu cael hyd i'r hyn sy'n gyffredin rhyngom er mwyn creu dyfodol gwell i Gymru a'r byd."
Darlledir y rhaglen Dafydd Iwan: Y Prins a Fi nos Sul 7 Gorffennaf ar S4C, 8.00pm, gydag isdeitlau Saesneg ar gael.