Cludo chwech o bobl i'r ysbyty ar ôl 'digwyddiad' yn Aberdyfi
- Cyhoeddwyd
Wyth o bobl wedi cael eu codi o'r môr yn Aberdyfi brynhawn Sul
Mae chwech o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty ar ôl digwyddiad ar draeth yn Ngwynedd, meddai Gwylwyr y Glannau.
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans eu galw am 14:24 ddydd Sul i'r hyn maen nhw'n ei alw'n "ddigwyddiad traeth".
Cafodd y chwech eu cludo i Ysbyty Bronglais ac Ysbyty Gwynedd.
Nid oes unrhyw fanylion ar anafiadau'r chwech.
Roedd yr RNLI wedi dweud yn gynharach eu bod wedi anfon bad achub ar ôl i wyth o bobl gael eu dal mewn cerrynt.
Roedd dwy hofrennydd Ambiwlans Awyr a hofrennydd Gwylwyr y Glannau ar leoliad hefyd.

Cafodd sawl ambiwlans a dwy ambiwlans awyr eu hanfon i'r digwyddiad brynhawn dydd Sul
Roedd Kay Richards allan yn cerdded ei chi ar y traeth pan welodd hi geir yr heddlu a'r ambiwlans awyr yn cyrraedd.
"Erbyn i ni gyrraedd y traeth roedden nhw wedi cael eu tynnu o'r dŵr," meddai.
"Fe allen ni weld rhywun wedi'i amgylchynu gan barafeddygon ac yn y diwedd fe'u gosodwyd ar stretsier ac fe aethon nhw at yr ambiwlans awyr."
Dywedodd Ms Richards iddi weld pobl yn cael eu cludo i hofrennydd gwylwyr y glannau, ac eisteddodd un person ar y traeth yn cael gofal gan barafeddygon.

"O'r hyn a glywais i, pobl allan o syrffio a welodd y bobl mewn trafferthion a galw am gymorth," meddai.
"Roedd y faner goch i fyny felly dwi ddim yn siŵr pam eu bod nhw yn y dŵr yn nofio, mae gennym ni lanw cryf iawn yma."