Cyfnod clo'n ysgogi mwy i geisio bod yn athrawon
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o bobl yn ymgeisio i gymryd cyrsiau ymarfer dysgu yn ystod y cyfnod clo wrth i lawer ailystyried eu gyrfaoedd, yn ôl economegwyr.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'r niferoedd sydd wedi hyfforddi i fod yn athrawon uwchradd yng Nghymru wedi gostwng, gyda rhai ysgolion yn cael trafferthion recriwtio.
Ond mae ffigyrau'r gwasanaeth derbyniadau prifysgolion, UCAS yn dangos cynnydd yn niferoedd ceisiadau yn ystod y pandemig.
Mae dysgu'n cael ei weld yn yrfa sefydlog, medd yr economegydd Jack Worth, o'r corff ymchwil addysg NFER (National Foundation of Educational Research).
Dywed adroddiad NFER fod ysgolion Cymru'n wynebu "her sylweddol a chynyddol" o ran denu darpar athrawon cyn y pandemig.
Ond hyd at 15 Mehefin, roedd yna 2,350 o geisiadau cyrsiau ymarfer dysgu yng Nghymru - cynnydd o 6.8% o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.
Mae 19% yn fwy wedi ceisio am hyfforddiant ymarfer dysgu uwchradd eleni.
Sawl diwydiant arall wedi dioddef
Er na fydd pob ymgeisydd yn hyfforddi fel athrawon yn y pen draw, gan fod modd ceisio am sawl cwrs, dywed NFER fod cynnydd yn nifer darpar athrawon "yn debygol".
Yn ôl Jack Worth, mae llawer yn cael eu denu i'r proffesiwn wedi i sawl diwydiant ddioddef yn ystod y cyfnod clo.
"Bydd yna wastad ddisgyblion i'w dysgu, felly mae'n ddiogel rhag dirwasgiad," meddai.
"Mewn marchnad lafur gymharol gryf, mae trafferthion cynyddol recriwtio a chadw athrawon, ond yn ystod ac ar ôl Covid, mae'n fyd gwahanol."
Mae undebau ac arbenigwyr wedi rhybuddio yn y blynyddoedd diwethaf fod ysgolion yn wynebu argyfwng, wrth i lai o athrawon newydd gymhwyso a llawer adael y proffesiwn.
Methwyd â chyrraedd targedau recriwtio darpar athrawon Llywodraeth Cymru bob blwyddyn rhwng 2014 a 2018.
Mae adroddiad NFER, ar sail data cyn Covid-19, yn dweud fod prinder difrifol yn achos athrawon uwchradd sy'n dysgu pynciau fel Cymraeg, mathemateg, ieithoedd tramor a'r gwyddorau.
Roedd gostyngiad hefyd yng ngheisiadau Addysg Gychwynnol i Athrawon yn achos pynciau mwy poblogaidd, fel Saesneg a daearyddiaeth - dan hanner y targed yn 2018-19.
Roedd 6.5% o'r swyddi dysgu uwchradd yn wag yn 2019-19, o'i gymharu â 5.2% yn 2010-11.
"Gyda chynnydd disgwyliedig yn niferoedd disgyblion yn y pum mlynedd nesaf, gallai gostyngiad cyson yn niferoedd athrawon arwain at gynyddu'r gymhareb (ratio) disgybl-athro, a phrinder athrawon, o bosib," meddai Mr Worth.
Mae'n dweud fod angen ymdrech neilltuol i ddenu a chadw athrawon safon uchel ar gyfer ysgolion mewn mannau gwledig a difreintiedig sy'n cael trafferth llenwi swyddi gwag.
Rwy mor gyffrous
"Mae dysgu trwy'r Gymraeg yn bwysig iawn i mi," medd Celyn Thomas, 22 oed o Rydaman, Sir Gâr, sydd newydd gymhwyso fel athrawes. "Mae llawer o athrawon yn hyfforddi ond dim gymaint yn neud e yn Gymraeg."
Enillodd radd Addysg Grefyddol a Thystysgrif Addysg i Raddedigion ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant - y ddau drwy'r Gymraeg.
Mae Celyn yn dechrau ei swydd gyntaf ym mis Medi, gan ddysgu Addysg Grefyddol trwy'r Gymraeg, ond daeth ei hail gyfnod o brofiad dysgu i ben yn ddisymwth yn ystod y cyfnod clo.
"Symudodd popeth ar-lein," meddai. "Fel arfer bydden ni ar ar osodiad gyda'n mentor yna i'n helpu bob diwrnod. Roedd popeth ar e-bost a group chats a doedden ni methu mynd i'r llyfrgell felly wnaethon ni ddarllen yr holl lyfrau ar-lein.
"Rwy' mor gyffrous ynghylch bod nôI yn y dosbarth a chreu perthynas gyda'r staff a'r disgyblion."
Mwy o ffigyrau'r adroddiad
Cynyddodd ganran yr athrawon a adawodd y proffesiwn i weithio mewn maes arall o 11% yn 2009-10 i 30% yn 2018-19.
Roedd llai na 10 ymgeisydd am swyddi dysgu hanes, mathemateg, Cymraeg, daearyddiaeth a'r gwyddorau yn 2018-19.
Ar gyfartaledd, chafodd 8% o'r swyddi gwag yng ngogledd a gorllewin Cymru mo'u llenwi rhwng 2009/10 a 2018/19, dwbl rheiny yn y de a'r canolbarth.
Canol de Cymru sydd â'r gyfran uchaf o swyddi gwag, er taw yno mae'r nifer fwyaf o ymgeiswyr i bob swydd.
Mae Llywodraeth Cymru'n anelu at gael 5,300 o athrawon cyfrwng Cymraeg erbyn 2021. Ond ysgolion Cymraeg oedd â'r cyfraddau recriwtio gwaethaf, gyda phedwar ymgeisydd ar gyfartaledd ar gyfer pob swydd uwchradd ac wyth ar gyfer pob swydd gynradd.
Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru'n "cael trafferth" cyrraedd ei tharged, medd Mr Worth, gan fod gostyngiad rhwng 2011-12 a 2018-19 yn y niferoedd sy'n ymgeisio i ymarfer dysgu yn Gymraeg.
Edrych tua mis Medi
Er mor galonogol yw'r cynnydd yng ngheisiadau ymarfer dysgu, mae pryder, medd Mr Worth, na fydd rhai myfyrwyr yn cael y profiad dysgu disgyblion wyneb-yn-wyneb ym mis Medi.
Dyw myfyrwyr heb allu dysgu mewn ysgolion ers 16 Mawrth pan ddaeth rheolau pellter cymdeithasol i rym.
Dywed canllawiau Llywodraeth Cymru fod ysgolion â chyfrifoldeb i drefnu lleoliadau dysgu, sy'n "hanfodol i sicrhau hyfforddiant o ansawdd uchel" i fyfyrwyr dysgu.
Mae'r llywodraeth felly'n "annog ysgolion yn gryf" i barhau i ganiatáu cyfnodau dysgu wyneb-yn-wyneb, gan ychwanegu fod myfyrwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon "â'r potensial i chwarae rhan unigryw a sylweddol o ran cefnogi ysgolion yn y cyfnod hwn".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2017