Arestio un wedi pryder am les babi mewn llun ar-lein

  • Cyhoeddwyd
Social

Mae un person wedi ei arestio ar amheuaeth o greulondeb i blentyn ar ôl i lun gael ei gyhoeddi ar wefan gymdeithasol.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru bod swyddogion wedi eu galw yn dilyn pryderon am ddiogelwch babi.

Cadarnhaodd y llu bod babi wedi ei ddiogelu, a bod un person wedi ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth.

Mae'r ymchwiliad yn parhau.