Ffilmiau byrion gan bobl ifanc: Diflastod Haf Dan Glo
- Cyhoeddwyd
Cyfleu diflastod haf dan glo gyda chymeriadau clai wedi eu hanimeiddio yw ein hail ffilm fer yn ymateb i gyfnod Covid-19.
Mae Cymru Fyw wedi comisiynu tair ffilm fer gan bobl ifanc i glywed eu profiadau a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol.
Mae Aziliz Kervegant, 18, o Dregarth, Gwynedd, yn gyn-ddisgybl Ysgol David Hughes ac ar hyn o bryd yn chwilio am waith yn ystod ei blwyddyn allan.
Meddai: "Yn ystod y cyfyngiadau, rwyf wedi cadw'n brysur drwy ailafael mewn hen ddiddordebau, a dyma un ohonynt - animeiddio efo clai.
Yn y darn hwn, er gwaetha'r ffaith ein bod ni'n ymdrechu i lenwi'r diwrnodau â diddordebau, mae amser yn dal i lusgo yn ei flaen."
Hefyd o ddiddordeb: