Disgwyl penderfyniad ar ddyfodol Ysgol Pont Siôn Norton

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gynradd Pont Sion NortonFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Byddai cynllun y cyngor yn golygu Ysgol Pont Siôn Norton ac adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd

Bydd barnwr yn penderfynu a wnaeth awdurdod lleol weithredu fewn y rheolau gyda chynllun £37m i ad-drefnu addysg yn ardal Pontypridd yn ddiweddarach.

Mae cynllun Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnwys cau Ysgol Gymraeg Pont Siôn Norton ac agor un newydd yn ei lle.

Ymhlith y pynciau sy'n cael eu hystyried gan yr adolygiad barnwrol yw a wnaeth swyddogion y sir wneud digon i ystyried effeithiau'r ad-drefnu ar yr iaith Gymraeg.

Yn ôl gwrthwynebwyr, fe fydd y penderfyniad yn effeithio'n negyddol ar gymunedau yng ngogledd Pontypridd, ac yn golygu siwrne hir i ddisgyblion a rhieni.

Mae'r cyngor yn dweud ei fod wedi ymgynghori'n llawn.

Ym mis Mawrth y llynedd penderfynodd y cabinet fwrw 'mlaen gyda'r cynllun i greu ysgol gynradd Gymraeg newydd gwerth £10.7m ar safle Ysgol Gynradd Heol-y-Celyn yn Rhydyfelin.

Byddai hyn hefyd yn golygu cau'r ysgol honno ac Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Heledd Fychan yn poeni am yr effaith ar addysg Gymraeg yn yr ardal

Ond mae rhai yn lleol yn dadlau y byddai'r newid yn golygu fod rhieni'n cefnu ar addysg Gymraeg.

Mae'r cynghorydd sir Heledd Fychan yn dweud nad yw'r newidiadau o fudd i deuluoedd sydd am gael addysg Gymraeg ac yn byw i'r gogledd o'r dref.

"Mae yna dri safle yn rhoi addysg Gymraeg yn yr ardal ar hyn o bryd. Ysgol Evan James, Pont Siôn Norton ac mae Heol-y-Celyn sy'n hanner cyfrwng Cymraeg," meddai.

"Felly bydd y newidiadau yn golygu mai dim ond dau safle fydd yn cynnig addysg cyfrwng Cymraeg sef Evan James a Heol-y-Celyn.

"Mae Heol-y-Celyn yn agosach i Gaerdydd ond mae Pont Siôn Norton yn gyfleus i rai sy'n byw yn Ynys-y-bwl a Glyncoch, mae'n golygu mwy o deithio ac mae'r traffig yn anodd.

"Hefyd i rai sydd heb gar, mae'n golygu bod o'n anodd mynychu gweithgareddau fel y clwb brecwast."

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn protestio yn erbyn yr ad-drefnu arfaethedig

Mae rhai rhieni hefyd yn anhapus gyda'r bwriad i gau chweched dosbarth yn ysgolion uwchradd Pontypridd, Cardinal Newman a'r Ddraenen-wen.

Bwriad y sir yw sefydlu dwy ysgol ar gyfer disgyblion rhwng 3-16 oed ym Mhontypridd a'r Ddraenen-wen, a Chanolfannau Rhagoriaeth ôl-16 oed yn Ysgol Bryn Celynnog, Y Beddau a Choleg y Cymoedd, Nantgarw.

Dywed y cyngor fod angen yr ad-drefnu oherwydd bod gormod o leoedd gwag ar hyn o bryd.

Maen nhw yn mynnu eu bod wedi ymgynghori'n llawn ar y mater yn groes i honiadau'r gwrthwynebwyr.

Yn ôl llefarydd byddai'r cynlluniau yn golygu buddsoddiad o £37.4m yn addysg ardal ehangach Pontypridd.