Coronafeirws: Cyfyngu niferoedd achosion Llys y Goron
- Cyhoeddwyd
Ni fydd achosion newydd yn cael eu cynnal mewn Llysoedd y Goron os bydd disgwyl iddyn nhw bara mwy na thridiau, a hynny o achos y sefyllfa gydag ymlediad coronafeirws.
Mewn datganiad nos Fawrth, dywedodd yr Arglwydd Brif Ustus, Arglwydd Burnett o Maldony, y bydd pob achos Llys y Goron newydd oedd wedi eu rhestru i ddechrau cyn diwedd Ebrill 2020, ac am fod yn hirach na thri diwrnod, yn cael eu gohirio am y tro.
Bydd yr achosion yn cael eu hadolygu'n gyson, ac fe allai'r sefyllfa gydag achosion byrrach na thridiau gael ei adolygu yn y dyfodol hefyd.
'Problemau penodol'
Dywedodd datganiad gan y Swyddfa Farnwrol: "Mae achosion mewn Llysoedd y Goron yn achosi problemau penodol, am eu bod yn gofyn am bresenoldeb nifer o unigolion gwahanol gan gynnwys y barnwr, y diffynnydd, cyfreithwyr a llygaid dystion, gan gynnwys staff.
"O gofio am y risg o fethu a chwblhau achos, mae'r Arglwydd Brif Ustus wedi penderfynu na ddylai unrhyw achos newydd agor mewn Llys y Goron oni bai bod disgwyl iddo gymryd tridiau neu lai.
"Bydd pob achos lle mae disgwyl iddyn nhw bara'n hirach sydd wedi'u rhestru i ddechrau cyn diwedd Ebrill 2020 yn cael eu gohirio.
Ychwanegodd y datganiad: "Bydd yr achosion sydd wedi dechrau'n barod yn parhau yn y gobaith y bydd modd eu cwblhau".