Y Bencampwriaeth: Fulham 1-2 Caerdydd (3-2)
- Cyhoeddwyd
Mae gobeithion Caerdydd o sicrhau dyrchafiad yn ôl i Uwchgynghrair Lloegr ar ben er buddugoliaeth o 2-1 ar y noson yn Fulham.
Ar ôl colli o 2-0 yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol gemau ailgyfle'r Bencampwriaeth, sgoriodd Curtis Nelson yn gynnar i roi gobaith i'r Adar Gleision.
Ond o fewn munud roedd Fulham yn gyfartal ar y noson drwy Neeskens Kebano, gan adfer eu mantais o ddwy gôl dros y ddau gymal.
Daeth yr eilyddion Lee Tomlin a Nathaniel Mendez-Laing ymlaen wedi'r egwyl wrth i Gaerdydd geisio achub eu gobeithion.
Ac fe dalodd y newid ar ei ganfed yn syth wrth i Tomlin sgorio i roi Caerdydd ar y blaen ar y noson ac o fewn un gôl i ddod yn gyfartal dros y ddau gymal.
Ond er ymdrechion lew Caerdydd a chyfle hwyr i Robert Glatzel, Fulham fydd yn wynebu Brentford yn y rownd derfynol yn Wembley nos Fawrth
Bydd Caerdydd, fel Abertawe 24 awr ynghynt, yn gorfod treulio tymor arall o leiaf yn y Bencampwriaeth.