Pryder myfyrwyr am gynlluniau llwybr beic Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Llun cyfrifiadurFfynhonnell y llun, Cardiff council
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y cynllun yn ehangu'r rhywdwaith bresenol yng Nghaerdydd

Fe allai cynlluniau i newid rheolau parcio mewn rhan o Gaerdydd gael effaith annheg ar allu myfyrwyr i fynd i'w gwaith tra ar leoliad gwaith, yn ôl rhai myfyrwyr.

Mae cyngor Caerdydd wedi bod yn ymgynghori ar gynlluniau i adeiladu llwybr beiciau 1.5 milltir (2.4 cilomedr) o Cathays i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Golygai'r cynllun y bydd y gallu i barcio yn yr ardal yn cael ei effeithio yn arw, gyda chyfnod penodol ar gyfer parcio yn y safleoedd sydd ar gael.

Dywed Cyngor Caerdydd fod yn rhaid gwneud y newidiadau er mwyn gallu ehangu'r llwybr beiciau.

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y ffordd newydd yn mynd o Heol Senghennydd i'r Ysbyty Athrofaol

Dywed Beth Johnson, sy'n fyfyrwraig feddygol yn ei phedwaredd flwyddyn yn y brifysgol, fod y ddadl ynglŷn â llwybr beiciau yn cael ei ddefnyddio fel esgus i newid rheolau parcio yn ardal Cathays..

Dywedodd y byddai yn ei gwneud yn amhosib i drigolion lleol barcio heb drwydded.

Byddai'r cynllun yn golygu fod nifer y safleoedd trwyddedig yn aros yr un faint - ond byddai safleoedd eraill yn diflannu bron yn llwyr, neu yn cael eu disodli gan lefydd parcio gydag amseroedd cyfyngedig.

Mae Ms Johnson yn rhannu tŷ yn ardal Cathays gyda phedwar o fyfyrwyr meddygol eraill.

Dywedodd fod bob un ohonynt gyda cheir ac ar hyn o bryd yn gorfod yn gweithio fel rhan o'u cwrs mewn ysbytai y tu allan i'r ddinas.

Mae rheolau Cyngor Caerdydd yn caniatáu dwy drwydded i bob tŷ, ynghyd ac un drwydded i ymwelydd.

Dywedodd Ms Johnson: "Rwy'n meddwl bod y llwybr ei hun yn syniad gwych, a bydd yn annog pobl i fod yn fwy heini yn yr ardal.

"Ond bydd y cynlluniau yn ei gwneud bron yn amhosib i unrhyw un heb drwydded i allu parcio.

"Mae yna nifer ohonom yn byw gyda'n gilydd.

"Flwyddyn nesaf byddaf yn rhannu tŷ gyda phump o feddygon arall a bob un gyda char, felly bydd y polisi yma yn cael effaith mawr arnom ni."

Dywedodd Cyngor Caerdydd eu bod wedi cynnal trafodaethau dros gyfnod hir gyda thrigolion lleol.

"Mae darparu rhwydwaith seiclo, sydd yn bennaf yn cael ei gadw ar wahân i draffig, yn flaenoriaeth i'r cyngor, ac rydym yn hyderus y bydd y llwybr newydd yn ased i'r ddinas.

"Mae sicrhau llwybrau beic ar ffyrdd Caerdydd yn golygu heriau, gan fod yr hewl fawr fel rheol o led benodol.

"Mae'n rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng sicrhau'r rhwydwaith newydd a cholli safleoedd parcio.

"Mae trigolion wedi cael dweud eu dweud yn ystod y broses ymgynghori."