Llygredd yn lladd cannoedd o bysgod ym Mhowys
- Cyhoeddwyd

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad
Mae cannoedd o bysgod wedi marw ar ôl achos o lygredd yn un o afonydd y canolbarth.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn ymchwilio i'r achos yn Afon Llynfi, llednant i Afon Gwy.
Cafodd tua 200 o bysgod bawd y melinydd - bullheads - eu darganfod ar y safle ger Pontithel ym Mhowys.
Yn ôl Emily Tilling, sy'n byw gerllaw, roedd brithyll a physgod penllwyd hefyd wedi marw.
Fe gysylltodd â'r awdurdodau ar ôl sylwi ar "arogleuon cemegol cryf" wrth iddi fynd â'i chi am dro nos Wener.
"Roedd yna bysgod ar y creigiau yn ceisio cael anadl. Dwi heb weld ddim byd tebyg," meddai.
"Roedd yr afon yn glir yn y pnawn, ond yn wyrdd budur ac roedd yna arogl cemegol cryf," meddai.

Bu farw nifer o gimwch yr afon o ganlyniad i'r llygredd
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym ar hyn o bryd ar safle ym Mhontithel, lle mae yna lygredd.
"Mae tua 200 o bysgod bawd y melinydd wedi marw mewn rhan saith metr o Afon Llynfi.
"Mae'r ymchwiliad yn parhau."