Dyn wedi marw ar ôl cael ei achub o'r môr yn Y Bermo

  • Cyhoeddwyd
Bermo
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y dyn fu farw ar ei wyliau yn yr ardal

Mae dyn wedi marw ar ôl mynd i drafferthion mewn cerrynt cryf oddi ar draeth Y Bermo.

Cafodd y dyn, y credir oedd yn ei 30au, ei gludo i Ysbyty Gwynedd ond bu farw.

Roedd y dyn ar ei wyliau yn yr ardal ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Cafodd tri o bobl eraill hefyd eu hachub o'r môr ac anfonwyd hofrennydd Gwylwyr y Glannau ac ambiwlans awyr i'r digwyddiad tua 13:30 ddydd Sul.

Does dim manylion am gyflwr y ddau arall a gafodd hefyd eu cludo i Ysbyty Gwynedd.