Llythyr caru i Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Bedwardeg mlynedd yn ôl fe ysgrifennodd Aled Lewis Evans lythyr caru i dref Wrecsam.
Gyda'i gyfrol newydd Tre Terfyn wedi ei ddisgrifio fel llythyr caru i ardal y ffin lle fu'n byw ers yn blentyn, mae'r awdur a'r bardd yn myfyrio am y newid mae wedi ei weld yno ers 1980.
Pan ysgrifennais fy llythyr caru cyntaf i Wrecsam roeddwn yn 19 oed, ac wedi gorffen y flwyddyn gyntaf o astudio Cymraeg a Saesneg ym Mhrifysgol Bangor.
Y flwyddyn honno ddeugain mlynedd yn ôl enillais Gadair a Medal yr Ifanc yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen gyda Jâms Niclas yn beirniadu. Y digwyddiad hwnnw roddodd ddechrau i mi ddatblygu'r ysgrifennu yn rhan hollbwysig o 'mywyd.
Disgrifir fy llyfr newydd Tre Terfyn hefyd fel "llythyr caru i ardal", ac mae rhai nodweddion tebyg yn 1980 a 2020, ond ambell dro ar fyd hefyd.
Mae dipyn o'r Rhamantydd yn y llythyr cyntaf yn 1980: "dy rwndi pell yn suo-gân i'm cwsg". Soniaf am "ganolfan heddlu uchel ei threm" a'r bragdai a'r siopau teuluol." I raddau helaeth fe grebachodd y bragu a'r siopau teuluol i ambell enghraifft loyw, ac mae canolfan heddlu newydd sbon danlli yn Llai.
"Do fe'm Wrecsameiddiwyd go iawn, ac yn nhref niwtraliaeth caf anadlu'n rhydd," meddwn yn 19 oed.
Mae'r elfen o niwtraliaeth dal yno, ac yn fy nenu a'm hynysu ar adegau. Mae fy holl Gymreictod a'm llenydda pan af allan drwy'r drws yn golygu dim yn gyffredinol ar balmant yma.
Ond 'dw i wedi gweld hyn fel peth positif hefyd. Hynny ydy, bod Wrecsam yn ddalen lân bob tro, dim llawer o ddisgwyliadau i bwyso ar lenor Cymraeg, a'r mwyafrif yn gwybod dim am fy mywyd llenyddol Eisteddfodol y byddaf yn meddwl cymaint ohono.
O ran y broses olygu ar lyfr wedi'r creu, mae Wrecsam yn creu y gofod i chi fod yn hollol wrthrychol am eich gwaith hefyd. Mae'r ymbellhau o'r defnydd yn bosibl yma, yn ogystal â ffynhonnell y deunydd.
Er bod amgueddfa wych newydd yn Wrecsam, ychydig iawn o dystiolaeth sydd ar ôl o'r bragu, y diwydiant glo a dur. Mae Wrecsam yn mynd yn fwy dinesig ei naws, nid y dref farchnad draddodiadol a ddisgrifiais yn 1980.
Cymdeithas yn newid
Yn y stryd lle dwi'n byw lle unwaith ceid teuluoedd yn gysylltiedig â'r rheilffordd a'r ysbyty, ac ambell ffarmwr wedi ymddeol i'r Dre o'r topiau, mae nifer o'r tai yn dai rhent fesul ystafell. Mae'r tai teuluol bellach yn cartrefu teuluoedd o sawl gwlad yn y byd, a phobl sy'n fwy symudol.
Mae hynny yn ddiddorol iawn hefyd, ond yn gwbl wahanol i'r patrwm cymdeithasol a oedd yn y stryd pan symudais yma yn 1990 pan oeddwn yn athro yn Ysgol Morgan Llwyd am dros ddegawd.
Nodaf yn 1980: "Ni welaf dy ddrygioni a'th galedi ond clywaf dy goed a'th drenau liw nos." Doeddwn heb ddechrau gweithio fel gohebydd yn radio Sain y Gororau bryd hynny - a buan iawn y dois i adnabod yr ardal wrth gyflwyno "Clwyd am Chwech" yn nosweithiol am bum mlynedd.
Erbyn Tre Terfyn rwyf yn cyfeirio at gyffuriau a digartrefedd, ond mae'r person ifanc yn dewis peidio yn 1980. Mae Wrecsam wedi bod yn gefndir i straeon byrion a nofel "Y Caffi" gen i rhwng y ddau lythyr caru, ac i amryw o gerddi am fywyd beunyddiol yr ardal.
Wrecsam a'r Gymraeg
Cyfeiriaf hefyd at "dy Seisnigrwydd eang a'th Gymreigrwydd clos".
Mae'r Cymreictod wedi dod yn elfen fwy amlwg erbyn cyhoeddi Tre Terfyn, ac mae'r gymuned Gymraeg yn feddylgar ac agos-atoch yma. Ym mhob ysgrifennu am yr ardal mae gen i ddiddordeb yn y Cymry rheiny a ddaw i Wrecsam o ardaloedd Cymraeg ond sy'n dewis peidio â dod yn rhan o weithgareddau niferus Cymraeg y dre.
Mae Cymraeg rhai yn cael ei adael yn yr hen gynefin, ond bydd rhywun yn siŵr o ddod ar eu traws, ac maen nhw'n gwybod mewn gwirionedd bod 'na sawl cyfle i gadw'u heniaith, a pherthyn yn Wrecsam hefyd.
Un nodwedd sydd yn y ddau gyfnod ydy hiwmor ei thrigolion cynhenid sydd yn helpu pobl i oroesi a dygymod â'u presennol. Mae Wrecsam yn dref lafar iawn, a ffraethineb anfwriadol yn eu sylwadau yn aml.
Yn y llyfr newydd rwyf wedi ymgyfarwyddo â thafodiaith yr ardal hefyd yn y Rhos, Ponciau, Coedpoeth, ac rwyf yn llawer iawn mwy ymwybodol o hyfrydwch enwau Cymraeg cynhenid y fro. Mae'n holl bwysig fod tafodiaith yn parhau yn nodwedd fyw yn y bröydd o boptu Clawdd Offa, ac yn cael ei fawrygu.
Nodaf fel gŵr ifanc yn 1980: "Dwi'n rhyfeddu'n fawr at dy hyblygrwydd" ac mae hynny yn dal yn wir am y dref a'i phobl. Mae Wrecsam yn groesawgar, yn ymateb, yn barod i ystyried syniadau newydd, a'i phobl yn hynod o hael hyd yn oed pan nad oes ganddynt lawer i roi.
Tref y presennol ydy Wrecsam, ym mhob cyfnod. Tref ar yr wyneb, a thref garedig a chroesawgar ar y ffin.
Hefyd o ddiddordeb: