Galw am daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol 'annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Bae Caerdydd mis MehefinFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae torfeydd o bobl wedi bod yn cyfarfod ym mae Caerdydd ers llacio cyfyngiadau

Gallai mesurau rheoli torfeydd helpu i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mae Caerdydd, medd Aelod Seneddol Llafur.

Yn ystod y penwythnos cafodd dau o bobl yn eu 20au eu harestio wedi digwyddiad ac fe anafwyd swyddog heddlu.

Cafodd gorchymyn gwasgaru ei roi yn ei le am 48 awr ger Canolfan Mileniwm Cymru.

Ers i'r cyfyngiadau yn ystod y clo mawr lacio mae cannoedd o bobl ifanc wedi bod yn ymgynnull ac yn yfed alcohol yn y bae.

Mae Stephen Doughty wedi galw am osod mesurau yn eu lle sydd yn debyg i'r rhai yng nghanol y ddinas sef system un ffordd i gerdded a marciau clir ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol.

Dywed Mr Doughty ei fod wedi siarad gydag awdurdodau am wneud rhywbeth tebyg yn y bae.

"Rwy wedi cael pryderon am hyn am nifer o wythnosau nawr. Rwy eisiau gweld system well fel bod pobl yn glynu at y rheoliadau coronafeirws a hefyd yn mwynhau ym mae Caerdydd mewn ffordd saff."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Stephen Doughty dyw hi ddim yn dderbyniol bod staff y cyngor yn gorfod clirio cymaint o sbwriel ar ôl i bobl fod yn yfed ym mae Caerdydd

Fe wnaeth y gwleidydd ganmol ymdrechion y cyngor hefyd yn oriau man y bore i glirio'r sbwriel oedd wedi ei adael ar ôl.

"Mae'r hyn maen nhw yn gorfod delio ag o yn hollol annerbyniol. Mae angen i bobl ymddwyn yn fwy cyfrifol.

"Maen nhw yn dod yma ac yn gadael eu sbwriel, os yw'r biniau yn llawn ewch ag e adre gyda chi."

Ychwanegodd ei fod yn pryderu hefyd am y defnydd o nwy Ocsid Nitraidd, sy'n gallu cael ei ddefnyddio ar gyfer difyrrwch personol.

Nwy chwerthin yn broblem

"Rwy wedi annog y cyngor a'r adran trwyddedu i ymchwilio i weld beth allan nhw wneud am y broblem," meddai wrth raglen Breakfast ar BBC Radio Wales.

"Mae'n amlwg ni'n sôn am nid yn unig yr alcohol ond y cyffuriau hefyd. Ac mae yna gwestiynau ynglŷn â beth mae busnesau yn gwneud o safbwynt gweini i unigolion."

"Mae'r pethau yma wedi eu gwahardd ac mae pobl yn cael gafael arnynt yn anghyfreithlon."

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Caerdydd mai "mater i'r heddlu" yw'r hyn sydd yn digwydd ym Mae Caerdydd.

Ond fe wnaethon nhw ychwanegu bod staff y cyngor methu glanhau a chlirio pan mae niferoedd uchel o bobl mewn un lle, yn enwedig o achos y pandemig.

"Does gyda ni ddim opsiwn arall ond clirio wedyn."

'Heriol iawn'

"Rydyn ni yn gosod biniau mawr mewn parciau ar draws y ddinas ond yr hyn na allwn ni ganiatáu yw bod y biniau mawr yn cael eu defnyddio mewn unrhyw ffordd i gyfrannu at yr ymddygiad gwrthgymdeithasol."

Yn ôl Heddlu De Cymru dyw ymddygiad gwrthgymdeithasol na throseddu ddim yn cael ei dderbyn.

"Mae ein swyddogion yn ymateb i'r digwyddiadau hyn ac yn defnyddio'r pwerau sydd ganddynt, gan gynnwys gorchymyn gwasgaru a chamau gorfodi.

"Fodd bynnag gyda mwy na 100 milltir o arfordir, parciau, trefi a chanol dinasoedd, mae'n heriol iawn a gallwn ni ddim bod ym mhob man trwy'r amser," meddai'r Prif Uwch Arolygydd, Andy Valentine.

Ychwanegodd eu bod yn gweithio yn agos gyda phartneriaid gwahanol am fod hyn yn hanfodol i gadw pobl yn saff a gwneud yn siŵr bod ansawdd bywyd y cyhoedd ddim yn cael ei effeithio yn negyddol gan "weithredoedd hunanol lleiafrif".