Pryder am deulu merch o Aberystwyth wedi trychineb Beirut

  • Cyhoeddwyd
Leena Sarah Farhat
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o ffrindiau a theulu Leena ar goll wedi'r ffrwydrad yn Beirut

Mae'r hyn sydd wedi digwydd yn Beirut yn "ddim llai na thrychineb" medd merch o Aberystwyth sydd â theulu yn byw yn y ddinas.

Mae nifer o ffrindiau a theulu Leena Sarah Farhat ar goll wedi ffrwydrad anferth a wnaeth ddinistrio ardal y porthladd ym mhrifddinas Libanus ddydd Mawrth.

Bu farw o leiaf 100 o bobl ac mae 4,000 wedi eu hanafu.

Wrth siarad ar y Post Cyntaf dywedodd Leena Sarah Farhat: "Fel cenedl, roedden ni eisoes yn wynebu adfail economaidd, felly bydd hyn yn cael effaith am genedlaethau i ddod.

"Mae fy nheulu i yn byw yng nghanol y ddinas - un modryb a dau gefnder - ac maen nhw i gyd yn yr ysbyty.

"'Da ni wedi gallu cysylltu gydag aelodau eraill o'r teulu sy'n byw wrth y ffin â Syria... ond mae 'na dal lot o deulu a ffrindiau ar goll."

'Wedi colli popeth'

Ychwanegodd: "Mae Libanus yn unigryw, mae'r rhan fwyaf o bobl o Libanus yn byw tu allan o'r wlad - felly mae pawb yn ceisio cysylltu â theulu a ffrindiau ar frys... ond mae o bron yn amhosib.

"Mae pobl Libanus union fel chi, gweithwyr proffesiynol, myfyrwyr, plant, pawb - a nawr be' sydd yn rhaid ceisio gwneud yw ail-adeiladu - ond bydd angen help.

"Dim o reidrwydd help ariannol. Mae'r bobl yno wedi colli popeth."

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Ardal y porthladd wedi'r ffrwydrad

Dywedodd Ms Farhat bod gweld y dinistr a llefydd mae hi yn gyfarwydd â nhw wedi cael effaith fawr arni.

"Mae o [gwylio'r fideos] yn really torcalonnus, fues i'n byw yn Beirut am flwyddyn fel plentyn, a dwi'n gweld y fideos ac yn nabod yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio - ac mae o wir yn dorcalonnus...

"Y dinistr, does dim byd tebyg iddo."

Yn ôl yr Arlywydd Michel Aoun, 2,750 tunnell o amoniwm nitrad - oedd yn cael ei storio yn anniogel mewn stordy - oedd achos y ffrwydrad.

Mae'r gwaith o chwilio am unrhyw un all fod wedi goroesi'r digwyddiad yn parhau.