Ymweliad Brenhinol yn 'dristwch' i deulu sy'n cadw draw

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Tristwch oedd e bod ni methu ymweld a bod nhw wedi gallu'

Roedd hi'n "dristwch" i weld Dug a Duges Caergrawnt yn ymweld â chartref gofal yng Nghymru, yn ôl dyn sydd heb gael gweld ei dad yn y cartref ers fis.

Roedd y Tywysog William a'i wraig Catherine yng Nghaerdydd dydd Mercher, ac fe fuodd y ddau'n ymweld â chartref Shire Hall yn y ddinas.

Daw hynny ar ôl i Rhys ab Owen Thomas gael gwybod na fyddai modd iddo ymweld â'i dad yn y cartref tan ddydd Gwener - oherwydd bod gweithiwr yno wedi cael prawf Covid-19 positif.

Dywedodd cartref Shire Hall bod y gwaharddiad ar ymwelwyr ond yn ymwneud ag un rhan o'r cartref, a bod hynny ar ben bellach.

Mae Mr Thomas yn dweud ei fod wedi derbyn ymddiheuriad gan y cartref.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe fuodd William a Catherine yn siarad gyda staff a phreswylwyr yng Nghaerdydd

Dywedodd Mr Thomas nad yw wedi gweld ei dad, y cyn-aelod Cynulliad Owen John Thomas, ers dechrau mis Gorffennaf, ar ôl i deuluoedd gael gwybod y byddai'n rhaid aros am 28 diwrnod wedi'r prawf positif ar 10 Gorffennaf.

Cafodd wybod gan y cartref mai'r diwrnod cyntaf i ymweld oedd ddydd Gwener, a dywedodd ei bod hi'n "dipyn o sioc" i weld y cwpl brenhinol yn y cartref yn sgwrsio gyda staff a phreswylwyr pan nad yw'n cael mynd yno ei hun.

"Mater o dristwch oedd e bod ni methu ymweld â fe, a bod aelodau'r Teulu Brenhinol wedi gallu mynd mewn i'r cartre'..." meddai.

"Dwi'n deall falle bod o'n boost i morâl rai o'r bobl yno, yn sicr bydde fe ddim i'n nhad i oedd yn weriniaethwr ar hyd ei fywyd, ond dwi'n deall y bydde fe'n fwynhad i nifer o'r preswylwyr yno.

"Yr hyn dwi ddim yn deall yw bod nhw wedi gallu mynd mewn, a ni fel teulu, a theuluoedd eraill, wedi methu."

Ffynhonnell y llun, Rhys ab Owen
Disgrifiad o’r llun,

Owen John Thomas, Sian Wyn Thomas, Manon a Rhys

Mae gohebiaeth rhwng yr awdurdod lleol a rheolwr y cartref gofal, sydd wedi'i weld gan y BBC, yn dangos bod y cyfnod 28 diwrnod heb ymwelwyr wedi dod i ben ddydd Mercher.

Cafodd hynny ei gadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ond mewn gohebiaeth ar wahân, dywedodd y cartref gofal bod ymweliadau i fod i ddechrau ddydd Iau, diwrnod ar ôl i'r cwpl Brenhinol fod yno, a bod y gwaharddiad ond yn ymwneud ag un rhan o'r cartref.

'Colli diwrnod o'i gwmni'

Mae Mr Thomas yn dweud bod y cartref yn gwneud "gwaith anhygoel mewn sefyllfa anodd iawn", ac mae wedi derbyn ymddiheuriad am y sefyllfa.

Ond gan nad yw ei dad yn gallu ffonio na ddefnyddio technoleg arall i gyfathrebu, mae ymweliadau yn "hollbwysig".

"Mae pob diwrnod yn werthfawr, ac mae'n teimlo ein bod ni wedi colli diwrnod o'i gwmni e."

Dywedodd cartref gofal Shire Hall bod y gwaharddiad ar ymwelwyr ond yn ymwneud ag un rhan, neu gymuned, o'r cartref.

Dywedodd bod y gymuned ddementia wedi bod heb Covid-19 am 28 diwrnod ddydd Mawrth, ond gan ei bod yn cymryd amser i drefnu ymweliadau, ei bod wedi ysgrifennu at deuluoedd yn dweud y gallai ymweliadau ddechrau o ddydd Iau.

Ni wnaeth Mr Thomas dderbyn y wybodaeth yma, meddai.

Ychwanegodd y cartref ei fod yn "deall pwysigrwydd" y cysylltiad gyda theuluoedd, a bod ymweliadau bellach yn cael dechrau i bawb.

Diolchodd y cartref hefyd am "gefnogaeth anwyliaid yn ystod y cyfnod heriol yma".

Nid oedd y Teulu Brenhinol am wneud sylw.