Cwrdd â'r seren Instagram o Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Roedd gan Duncan Evans o Hendy-gwyn swydd gyfforddus gyda chwmni adeiladu yng Nghaerdydd pan benderfynodd roi'r gorau iddi a newid ei yrfa yn llwyr.
Fe ddechreuodd Duncan greu fideos a thriciau graffeg am hwyl, ond o dan yr enw CurlyKidLife mae bellach wedi creu dilyniant enfawr ar YouTube, dolen allanol, yn ogystal â thros 250,000 o ddilynwyr ar instagram, dolen allanol a 765,000 o ddilynwyr ar yr ap TikTok, dolen allanol.
"Mae'n siŵr pan ddechreuais i o'n i'n hyn sy'n cael ei alw'n illusionist," meddai Duncan. "Ond mae wedi troi fewn i fwy o ryw ddiddanwr bellach, ac animeiddio sydd wrth wraidd hyn i gyd.
"Dechreuais tua thair blynedd yn ôl. Doedd gen i ddim cefndir mewn motion graphics na phrofiad gyda dim rwy'n ei wneud nawr, ond nes i jest cael fy ysbrydoli gan be o'n i'n gweld eraill yn gwneud - yn bennaf yn America. Roeddwn yn mwynhau dechrau gwneud y fideos, ond roedd gen i'r awydd i wneud fideos yn fy arddull i fy hun."
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Aeth Duncan i Brifysgol Bryste i astudio creative product design cyn mynd 'mlaen i'r diwydiant adeiladu fel rheolwr prosiect yng Nghaerdydd.
"Mi wnes i'r hyn a oedd yn ddisgwyliedig ohono i ar ôl mynd i'r brifysgol, sef dod adre' a ffeindio swydd gall.
"Ond cyrhaeddais rhyw bwynt yn fy mywyd lle'r oedd rhaid mi ddewis gwneud rhywbeth o'n i wir yn mwynhau gwneud, neu wneud swydd o'n i ddim yn mwynhau o gwbl am weddill fy mywyd. Felly mi roddais i'r gorau i fy swydd a dechrau golygu.
"Dwi'n gwybod bod yr hyn rwy'n wneud ddim y ffordd fwya' confensiynol o wneud bywoliaeth, ond mae e'n siwtio fy mhersonoliaeth i."
Llwyddiant tramor
Mae gan Duncan ddilyniant enfawr ledled y byd, gyda un o'i fideos ar YouTube wedi ei weld dros 13 miliwn o weithiau.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
"Dwi'n ffeindio bod gennyf dipyn o ddilyniant gan bobl o Asia," meddai Duncan. "Dwi'n meddwl bod hynny achos bod fy stwff wedi cael ei rannu ar 9GAG yn y gorffennol."
Mae 9GAG yn wefan ac ap o Hong Kong sy'n galluogi rhywun i rannu cynnwys, ac wedi i waith Duncan dechrau ymddangos ar y wefan fe dyfodd ei ddilyniant. Mae gan Duncan llawer o ddilynwyr o'r Dwyrain Canol a'r Unol Daleithiau hefyd, ond yn ddiweddar mae'n sylwi bod pobl agosach i adref yn cymryd sylw ohono.
"Mae 'na lot o bobl o Gymru, hyd yn oed lot o'r dref dwi'n dod heb unrhyw syniad fy mod yn creu'r fideos 'ma."
"Os dwi'n gwneud fideo sy'n mynd yn 'viral', fel y gwnaeth un diweddar yn dangos adar gyda breichiau, dwi'n ffeindio mod i'n cael miloedd o ddilynwyr newydd. Dwi hefyd yn gwneud lot ar TikTok dyddiau 'ma, sy'n ap gymharol newydd."
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Mae Duncan wedi bod yn yr Unol Daleithiau yn gweithio gyda chwaraewyr NFL (pêl-droed Americanaidd) ac fe wnaeth fideo o'r DJ enwog Fisher a oedd yn perfformio set o flaen miloedd... ond yn fideo Duncan, roedd yn coginio gyda wok.
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
'Cymryd amser'
Mae Duncan yn dweud bod rhaid bod yn amyneddgar wrth olygu fideos, gyda rhai yn cael eu creu fesul ffrâm gyda llawer o sylw yn cael ei roi ar y graffeg.
"Nath un diweddar gymryd pump neu chwe diwrnod i wneud, oherwydd roedd 'na gymaint o wahanol elfennau iddo, ond weithiau gall fideo gymryd cwpl o oriau i'w gwneud.
"Dwi'n ffeindio weithiau mai'r syniadau mwya' syml yw'r rhai mae pobl yn cysylltu â nhw ore.
"Mewn byd delfrydol byswn i'n gweithio naw'r bore tan bump - mi fydde nghariad i'n hapus â hynny! Ond pryd mae creadigrwydd yn taro rhywun mae'n rhaid ei wneud yn syth, ac weithiau ma' hynny'n golygu pan dwi'n rhoi fy mhen ar y clustog gyda'r nos.
"Mae'r cyfnod pandemig wedi bod yn heriol ar brydiau gan fod e'n cyfyngu lle dwi'n cael mynd mas a ffilmio - dwi wedi bod yn cynhyrchu llai yn ddiweddar."
"Dwi'n cael llawer o help gan fy nghariad, mae hi'n rhoi llawer o help i mi, a fy ffrind gorau hefyd. Mae e'n ysgrifennwr felly mae o'n dod â chymorth creadigol i mi a gan fod e ddim yn gweithio 9-5 mae e'n helpu fi unrhyw bryd hefyd chwarae teg.
"Dydyn nhw ddim yn deall yr ochr dechnegol gymaint â hynny, ond mae'r system sydd gennym ni'n gweithio'n dda."
Hoff fideo
O'r holl glipiau mae Duncan wedi ei greu, pa un yw ei ffefryn? "Yr un diweddar nes i 'da'r adar yn un, ac un arall dwi'n falch ohono oedd y llynedd o'r actor Dwayne 'The Rock' Johnson yn torri pizza ar fy mhlât i - nath e rannu'r fideo o'i gyfrif Instagram e."
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
"Dyna yw fy hoff fideos i wneud - celebrities yn gwneud rhywbeth, ac wedyn newid e fel bod nhw'n gwneud rhywbeth hollol wahanol.
"Mae'n deimlad braf rhoi'r ymdrech i mewn i rywbeth ac yna gweld y canlyniad, a bod pobl yn mwynhau eu gwylio nhw."
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Y dyfodol
Beth yw cynlluniau Duncan ar gyfer y dyfodol?
"Rwy yn y broses o drio cael stiwdio achos dwi erioed wedi cael set-up iawn. Dwi'n defnyddio'r stafell fyw ac ati pan dyw nghariad i ddim adre, felly fydde'n neis cael lle yn benodol i greu cynnwys er mwyn iddi hi gael lle!"
"Mi fydda i wedyn yn gallu ehangu fy stwff ar gyfer YouTube, a gwneud stwff behind the scenes a dysgu pobl sut mae gwneud hyn. Yna dwi'n gobeithio ehangu fy ngorwelion a chymryd y cyfleoedd.
"Doeddwn i ddim yn meddwl y byswn yn gallu mynd â pethe mor bell a lle ydw i nawr, lle rwy'n gwneud hyn yn llawn amser.
"Yn amlwg, 'nes i roi'r gore i fy swydd yn gobeithio i greu'r gyrfa newydd 'ma, ac mae rhywbeth bach yng nghefn fy mhen weithiau yn dweud bydd rhaid i mi fynd nol i job debyg i be' oedd gen i. Ond rwy'n rili mwynhau gweithio i fy hun, a dwi ishe cario mlaen cael hwyl a gweld pa mor bell allai fynd â hwn."
Hefyd o ddiddordeb: