Dyn wedi marw ar ôl cael ei daro gan lori ar yr A55
- Cyhoeddwyd
Mae dyn lleol wedi marw ar ôl iddo gael ei daro gan lori ar yr A55 ar Ynys Môn nos Iau.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r digwyddiad ger Y Fali toc wedi 22:45.
Yn ôl y llu roedd Vauxhall Corsa du wedi bod mewn gwrthdrawiad un cerbyd ger cyffordd 3, ac fe ddaeth y gyrrwr - Ciaran Michael Murray, 35 oed o ardal Y Fali - allan o'i gar yn dilyn hynny.
Dywedodd yr heddlu fod y dyn yna wedi cael ei daro gan y lori, a'i fod wedi marw yn y fan a'r lle.
Bu'r ffordd ynghau nes 10:00 fore Gwener tra bo'r llu yn ymchwilio i'r digwyddiad.
'Colled enfawr'
Dywedodd teulu Mr Murray mewn teyrnged iddo ei fod yn ddyn "hael, caredig a sensitif".
"Roedd yn fab, brawd, ewythr, nai, cefnder a ffrind oedd wedi'i garu gan lawer, a bydd pawb oedd yn ei 'nabod yn gweld colled enfawr," meddai datganiad y teulu.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog unrhyw un oedd yn teithio yn yr ardal ar y pryd neu sydd â fideo dash-cam o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.
Ychwanegodd y llu eu bod yn awyddus i siarad gydag unrhyw un welodd y modd roedd y Corsa yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.