Gostwng graddau wedi i athrawon roi canlyniadau 'hael'

  • Cyhoeddwyd
CanlyniadauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd canlyniadau Safon Uwch a TGAU yn cael eu rhyddhau yn ystod y pythefnos nesaf

Mae'r graddau Safon Uwch a TGAU gafodd eu penderfynu gan athrawon wedi bod yn "hael" ac mae anghysondeb ar draws ysgolion a cholegau, yn ôl y corff sy'n rheoleiddio arholiadau.

Mae'n golygu y bydd miloedd o'r graddau a gafodd eu gosod gan athrawon ar gyfer disgyblion wedi'u gostwng pan mae'r canlyniadau'n cael eu rhyddhau yn ystod y pythefnos nesaf yn sgil proses safoni.

Bydd graddau'n seiliedig ar farn athrawon am sut byddai eu disgyblion wedi perfformio ynghyd â fformiwla sydd wedi ei lunio gan y bwrdd arholi ar ôl i'r arholiadau gael eu canslo oherwydd coronafeirws.

Dywedodd Cymwysterau Cymru fod y broses mor deg â phosibl ac y byddai'r broses yn amddiffyn gwerth y canlyniadau.

Mae prosesau tebyg wedi'u mabwysiadu mewn rhannau eraill o'r DU ac arweiniodd hynny at ffrae yn Yr Alban yr wythnos diwethaf, lle'r oedd llawer o ddisgyblion yn anhapus eu bod wedi cael graddau is na'r hyn oedd wedi'i ragwelwyd.

Beth oedd y broses?

Mae canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol yn cael eu rhyddhau i ddisgyblion ar 13 Awst a bydd graddau TGAU yn cael eu cyhoeddi wythnos yn ddiweddarach.

Bydd y graddau hefyd yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Bagloriaeth Cymru.

Cyflwynodd ysgolion a cholegau raddau wedi'u hasesu i fwrdd arholi CBAC ym mis Mehefin.

Mae'r bwrdd arholi wedi edrych ar wybodaeth, gan gynnwys sut mae disgyblion wedi perfformio mewn blynyddoedd blaenorol, a chanlyniadau'r ysgol neu'r coleg yn y gorffennol.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y system newydd ei dyfeisio wedi i arholiadau gael eu canslo yn sgil y pandemig

Dywedodd prif weithredwr Cymwysterau Cymru Philip Blaker, heb ddull o'r fath y "byddai amrywiadau mawr yn lleihau hyder mewn canlyniadau ac felly'n anfantais i ddysgwyr eleni".

"Ar y cyfan roedd y graddau yn hael ac roedd tystiolaeth hefyd o anghysondeb rhwng canolfannau arholiadau," meddai.

"Nid yw hyn yn feirniadaeth o gwbl ar athrawon gan nad oedd cyfle yng nghanol y pandemig i'w hyfforddi.

"Mae ein dadansoddiad yn dangos gwahaniaeth clir rhwng y graddau a chanlyniadau arholiadau mewn blynyddoedd blaenorol, gan amlygu'r angen i gysoni er mwyn sicrhau tegwch i ddysgwyr."

Llawer mwy wedi cael y graddau uchaf

Dangosodd dadansoddiad gan y rheoleiddiwr, yn seiliedig ar y graddau gafodd eu gosod gan athrawon, y byddai dros 40% o ganlyniadau lefelau A wedi bod yn A* neu A, o'i gymharu â 27% yn 2019.

Ar lefel TGAU, byddai 73% wedi cael gradd A* i C, o'i gymharu â 62% yn 2019.

Dywedodd Cymwysterau Cymru y bydd mwyafrif y dysgwyr yn derbyn yr un radd â'r hyn oedd wedi'i amcangyfrif, ac y bydd canran fechan yn cael gradd uwch.

Bydd y gweddill, meddai'r rheoleiddiwr, yn cael gradd is, gyda "chanran fechan" o raddau terfynol "ddau neu fwy o raddau yn is" na'r hyn oedd wedi'i amcangyfrif.

'Gwahaniaeth clir'

Dywedodd Mr Blaker fod y "gwahaniaeth clir" rhwng y graddau oedd wedi'i amcangyfrif a chanlyniadau arholiadau blynyddoedd blaenorol yn tynnu sylw at yr angen am broses safoni.

"Mae newidiadau o'r maint hwn yn ddigynsail ac ni fyddai modd eu harchwilio'n gredadwy," meddai.

"Bydden nhw hefyd yn mynd yn groes i'n nod bod canlyniadau eleni ar lefel genedlaethol yn debyg i'r blynyddoedd blaenorol - rhywbeth yr oedd y rhan fwyaf o bobl yn cytuno ag ef pan wnaethon ni ymgynghori ar ein cynlluniau."