Disgyblion hŷn i gymysgu dan gynllun newydd ysgolion
- Cyhoeddwyd

Mae'n bosib y bydd angen i ddisgyblion hŷn gymysgu o fewn eu grŵp blwyddyn cyfan pan fydd ysgolion yn dychwelyd ym mis Medi, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Mae hynny'n angenrheidiol i alluogi disgyblion i astudio'r ystod lawn o bynciau TGAU a Safon Uwch, yn ôl y canllawiau diweddaraf sydd wedi eu cyhoeddi gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, y brif egwyddor yw lleihau cyswllt rhwng disgyblion a staff.
Mae'r canllaw, dolen allanol hefyd yn cynghori ar amseroedd gwersi a chynnig cinio ysgol, ond nid yw'n rhoi manylion am drafnidiaeth gyhoeddus.
Yn ôl y canllaw, mae'n bosib y bydd modd cadw disgyblion uwchradd iau a disgyblion cynradd mewn "grwpiau cyswllt" maint dosbarth.
Ond mae'r canllawiau yn caniatáu i ysgolion ystyried gweithredu "grwpiau cyswllt" maint blwyddyn ar gyfer y disgyblion hynny, os yw'n effeithio ar addysgu neu os yw'n anodd yn ymarferol.
I ddisgyblion hŷn, fe fydd y pwyslais ar bellhau, ond gyda dysgwyr iau y ffocws fydd cadw grwpiau ar wahân.

Daw'r canllaw newydd ar ôl i Kirsty Williams gyhoeddi y byddai ysgolion yn agor yn llawn ym mis Medi
Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud y bydd mynychu'r ysgol yn orfodol o 14 Medi ymlaen.
Fodd bynnag, mae'r llywodraeth yn cyfaddef y byddai'n "anodd" i awdurdod lleol neu ysgol roi dirwy neu weithredu os yw disgyblion yn peidio â mynychu'r ysgol, gan ddweud y bydd yn monitro'r sefyllfa.
Dyw'r canllawiau ddim yn darparu unrhyw fanylion pellach ar drafnidiaeth ysgol, gan nodi y bydd y cyngor diweddaraf ar drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir ac y bydd yn "gweithio gydag awdurdodau lleol ar yr effaith y bydd hyn yn ei gael ar gludiant ysgol".
Yn unol â chanllawiau sydd eisoes wedi cael eu cyhoeddi, mae'n cynghori y dylai rhieni a gofalwyr fynd â'u plant yn ôl ac ymlaen i'r ysgol, gan ddefnyddio "teithio llesol" lle bo modd.

Dadansoddiad Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru, Bethan Lewis
Un cwestiwn amlwg ar ôl cyhoeddiad y Gweinidog Addysg yr wythnos ddiwethaf oedd sut oedd modd darparu cyrsiau TGAU a Safon Uwch i grwpiau cyson o 30.
Mae'r canllaw yn cynnig ateb, sef caniatáu cymysgu mewn grwpiau tipyn mwy - y flwyddyn gyfan os oes angen.
Gyda'r feirws yn ymddangos fel petai dan reolaeth, mae yna dipyn o hyblygrwydd a mwy o bwyslais ar wneud yr hyn sy'n ymarferol i ddarparu addysg a chwricwlwm eang.
Dilyn mesurau "pan fo hynny'n bosib", yw'r neges gyson.
Ond nid yr hen normal yw hyn - mae'r cyfundrefnau glendid yn aros, mewn rhai ysgolion y coridorau unffordd, ac mae'n debygol bydd rhaid i grwpiau ddechrau a gorffen ysgol ar adegau gwahanol.
Ac wrth gwrs, trefniadau ar gyfer yr ymateb petai yna achosion o'r feirws yn codi mewn ysgol.

Fydd oriau'r ysgol yn newid?
Er mwyn cadw grwpiau ar wahân, mae'n dweud y dylai ysgolion ystyried addasu amseroedd cychwyn a gorffen ond mae'n nodi na ddylai hyn leihau amser dysgu.
Yn ôl y llywodraeth fe allai hyn "gynnwys cywasgu/gwasgaru cyfnodau rhydd neu amser egwyl" neu "gadw hyd y dydd yr un peth ond dechrau a gorffen yn hwyrach" er mwyn osgoi yr adegau prysuraf.
Er nad yw rhai ysgolion wedi bod yn darparu cinio yn ystod yr wythnosau diwethaf, bydd disgwyl i ysgolion agor eu ceginau yn llawn ym mis Medi.
Er gwaethaf y ffaith bod rhai ysgolion wedi llacio polisïau gwisg ysgol yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddai'n "annog pob ysgol i ddychwelyd i'w polisïau gwisg arferol yn nhymor yr hydref".
Mae'r llywodraeth hefyd yn dweud ei bod yn bwriadu "darparu cyflenwad o gitiau profi i bob ysgol a lleoliad" er mwyn sicrhau bod "hyblygrwydd yn y profion sydd ar gael".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2020