Diweithdra: Darlun calonogol i Gymru am y tro

  • Cyhoeddwyd
diweithdra

Mae'r ffigyrau gwaith diweddaraf yn awgrymu nad yw Cymru wedi dioddef cyn waethed â gwledydd eraill y DU yn ystod y cyfnod clo.

Mae canran y bobl sydd yn ddi-waith yng Nghymru yn 2.7%, o'i gymharu gyda chanran o 3.9% ar gyfartaledd yng ngweddill y DU.

Nid yw lefel diweithdra'r DU wedi cynyddu cymaint ag oedd llawer wedi ei ofni, a hynny'n bennaf o achos fod cymaint o gwmnïau wedi rhoi eu gweithwyr ar gynllun ffyrlo'r llywodraeth.

Dywed economegwyr na fydd effaith lawn y pandemig ar gyflogaeth i'w deimlo tan fydd y cynllun hwnnw'n dod i ben ym mis Hydref.

Ffigyrau'r chwarter

Roedd 8,000 yn llai o bobl ddi-waith yng Nghymru yn ystod y chwarter diwethaf o'i gymharu gyda'r cyfnod rhwng Ionawr a Mawrth, a 20,000 yn llai yn ddi-waith o'i gymharu gyda'r un cyfnod flwyddyn yn ôl.

Roedd lefel anweithgarwch economaidd - sef achosion lle nad yw pobl yn gweithio ac nid oes modd iddynt weithio - hefyd wedi gostwng yng Nghymru, er bod y ffigwr ar gynnydd mewn ardaloedd eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae 432,000 o bobl yng Nghymru yn y categori hwn.

Ond mae 'na awgrym fod mwy o swyddi yn mynd i ddiflannu yn ystod y misoedd nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe welodd y Deyrnas Unedig y gostyngiad mwyaf mewn cyflogaeth mewn dros ddegawd rhwng Mai a Gorffennaf eleni - gyda gostyngiad o 220,000 mewn pobl cyflogedig dros y chwarter, yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, yr ONS.

Dywedodd llefarydd yr ONS fod canran uchel o bobl i ffwrdd o'r gwaith dros dro, gan gynnwys gweithwyr ar gynllun ffyrlo - tua 7.5m ym mis Mehefin, gyda 3m o'r rhain wedi bod i ffwrdd o'r gwaith am dros dri mis a mwy.

"Roedd hefyd tua 300,000 o bobl i ffwrdd o'r gwaith o achos y pandemig a ddim yn derbyn unrhyw dâl ym Mehefin 2020", meddai'r llefarydd.

'Gwydn - ar y wyneb'

Dywedodd Gerwyn Davies o'r Sefydliad Siartredig Datblygiad Personel: "Mae'r farchnad waith yn edrych yn wydn ar y wyneb, yn rhannol am fod yr ystadegau swyddogol yn arafach na digwyddiadau o ychydig fisoedd.

"Er hynny, mae'r cynnydd yn nifer y bobl sydd yn economaidd anweithgar a'r cwymp yn nifer yr hunan-gyflogedig yn dangos fod y sefyllfa economaidd bresennol yn cael effaith yn barod ar y farchnad lafur.

"A gyda thwf mewn diswyddiadau yn y misoedd i ddod sydd yn mynd i fod yn anorfod wrth i'r Cynllun Cadw Swyddi ddod i ben, gallwn ddisgwyl gweld cynnydd sylweddol mewn diweithdra hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Am fod llai o alw am offer dringo, fe wnaeth cwmni DMM, Llanberis ddechrau cynhyrchu masgiau PPE

Dywedodd Gethin Parry, o gwmni DMM yn Llanberis bod y "system ffyrlo wedi achub llawer o swyddi".

"Y broblem sydd gan nifer o gwmnïau rŵan ydy bod y cyfraniad tuag at y system ffyrlo yn cynyddu yn yr Hydref a beth sy'n digwydd ym mis Tachwedd ymlaen gyda Brexit hefyd ar ddiwedd y flwyddyn.

"Mae'r ansicrwydd hwn i gyd yn peri pryder i gyflogwyr ac i weithwyr.'

"Fe aeth ein gwerthiant ni lawr dros nos o 70% roedd yn rhaid rhoi 70% o'r gweithlu ar ffyrlo.

"Rydan ni bellach yn ôl ar 30% o'r gweithlu ar ffyrlo a throsiant i lawr 20%."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates, yn "cydnabod nad yw'r ffigurau hyn yn dangos y darlun cyfan o safbwynt effaith y coronafeirws ar ein heconomi".

Mae Llywodraeth Cymru, meddai, yn "cymryd pob cam posibl er mwyn diogelu busnesau a swyddi rhag effeithiau difrifol y pandemig" wrth baratoi at fis Hydref pan ddaw cynlluniau cymorth Llywodraeth y DU i ben.

Ychwanegodd eu bod yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gynnal y cynlluniau cymorth hunangyflogaeth a ffyrlo, "sy'n gwbl allweddol, hyd nes y bydd yr argyfwng yn llai difrifol".

Dadansoddiad Gohebydd Economeg BBC Cymru, Sarah Dickins

Un o'r rhesymau pam nad yw diweithdra wedi cynyddu yng Nghymru yw rhan cynlluniau Llywodraeth y DU o ran cadw pobl ar restrau cyflogi, gan osgoi eu diswyddo hyd yn hyn.

Mae'r Cynllun Cadw Swyddi, sy'n cael ei ariannu gan y Trysorlys, yn galluogi rhoi gweithwyr ar ffyrlo ar 80% o'u cyflog. Mae cefnogaeth hefyd i bobl hunangyflogedig.

Mae dros chwarter gweithlu Cymru (316,000) ar gynllun ffyrlo, ac mae 102,000 o weithwyr hunangyflogedig wedi derbyn cymorth.

Y pryder yw na fydd gan lawer o'r gweithwyr hyn waith i ddychwelyd ato pan ddaw'r cynlluniau hynny i ben yn yr hydref.