Defnydd heddlu o dechnoleg adnabod wynebau'n anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Mae defnydd Heddlu De Cymru o dechnoleg adnabod wynebau yn anghyfreithlon, yn ôl y Llys Apêl.
Roedd Ed Bridges o Gaerdydd, a'r grŵp hawliau dynol, Liberty, wedi herio'r gyfraith ynglŷn â'r defnydd o dechnoleg adnabod wynebau (AFR) gan yr heddlu yn y brifddinas yn 2017.
Cytunodd barnwyr gyda thri o'r pum pwynt a godwyd ganddynt, gan ddweud nad oedd canllawiau clir gan yr heddlu am ddefnyddio AFR a phwy all gael ei roi ar eu rhestrau gwylio.
Oherwydd hyn roedd y ffordd yr oeddynt wedi asesu'r effaith ar ddiogelu data personol yn ddiffygiol, ac nid oedd camau rhesymol i weld os oedd y meddalwedd yn gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd ar sail rhyw neu hil.
Ond cytunodd y llys fod defnyddio AFR yn "ymyrraeth dderbyniol" ar hawliau dynol, a bod y manteision yn uwch nag unrhyw effaith ar Mr Bridges.
Mae AFR yn gweithio drwy fapio wynebau mewn torf o bobl trwy fesur nodweddion ar wynebau unigolion, ac yna'n cymharu canlyniadau gyda lluniau ar restr wylio.
Gallai'r rhestr honno gynnwys pobl dan amheuaeth neu o ddiddordeb i'r heddlu, neu bobl sydd ar goll.
Mae'r llu wedi bod yn treialu AFR ers 2017, yn bennaf mewn digwyddiadau chwaraeon mawr, cyngherddau, neu ddigwyddiadau mawr eraill.
Mynd yn groes i hawliau dynol
Honnodd Mr Bridges, a Liberty, ei fod yn mynd yn groes i'w hawliau dynol pan gafodd ei fanylion biometrig eu dadansoddi heb ei ganiatâd.
Yn ystod y rhith-wrandawiad fis diwethaf dywedodd bargyfreithiwr Liberty, Dan Squires QC, y byddai pobl yn teimlo'n anghyfforddus pe bai pawb yn cael eu stopio a'u holi am eu data personol ar y ffordd i mewn i stadiwm.
"Pe baen nhw'n gwneud hyn gydag olion bysedd, byddai'n anghyfreithlon, ond nid oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar wneud hyn gydag AFR," meddai, gan bod deddfau a chanllawiau clir ynglŷn â chymryd olion bysedd unigolion.
Y defnydd posib o AFR oedd y cwestiwn dan sylw, meddai, nid y gwir ddefnydd a wnaed hyd yma.
"Nid yw'n ddigon i ddweud fod hyn wedi cael ei wneud mewn ffordd gymesur hyd yn hyn."
Roedd mesurau i amddiffyn pobl rhag defnydd mympwyol o'r dechnoleg, neu i sicrhau ei fod yn gymesur, yn annigonol yn y deddfau presennol, meddai.
'Gwyliadwraeth ormesol'
Wedi'r dyfarniad, dywedodd Mr Bridges: "Dwi wrth fy modd fod y llys wedi cytuno bod adnabod wynebau yn amlwg yn bygwth ein hawliau.
"Mae'r dechnoleg yma'n arf gwyliadwraeth dorfol, ymwthiol a gwahaniaethol.
"Am dair blynedd mae Heddlu De Cymru wedi bod yn ei ddefnyddio yn erbyn cannoedd o filoedd ohonom, heb ein caniatâd ac yn aml yn ddiarwybod inni.
"Dylem allu defnyddio ein llefydd cyhoeddus heb orfod dioddef gwyliadwraeth ormesol."
Dywedodd twrnai Liberty, Megan Goulding bod y dyfarniad yn "fuddugoliaeth bwysig" a bod y llys "wedi cytuno bod yr arf gwyliadwraeth dystopaidd hwn yn tramgwyddo yn erbyn ein hawliau a'n rhyddid".
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Matt Jukes, na fyddai'r llu yn apelio'r dyfarniad, ac y byddai'n defnyddio'r dyfarniad i ddatblygu'r defnydd o'r dechnoleg.
"Ein blaenoriaeth yw amddiffyn y cyhoedd, ac mae hynny'n mynd law yn llaw gydag ymrwymiad i sicrhau eu bod yn gweld bod ein defnydd o dechnoleg newydd yn gyfrifol ac yn deg."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2019
- Cyhoeddwyd15 Mai 2018
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2019