Galw am atal meddalwedd adnabod wynebau

  • Cyhoeddwyd
Adnabod wynebauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae grŵp ymgyrchu wedi rhybuddio y dylid atal defnyddio meddalwedd adnabod wynebau gan yr heddlu oherwydd pryderon ei fod "bron yn gyfan gwbl wallus".

Mae ffigyrau ddaeth i law Big Brother Watch o ganlyniad i gais dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn dangos bod 98% o 'gydweddiadau' o'r dechnoleg yn anghywir yn achos Heddlu'r Met yn Llundain, ac roedd y ffigwr ar gyfer Heddlu De Cymru yn 91%.

Yn ardal Heddlu'r De fe ddaeth i'r amlwg bod 2,451 allan o 2,685 o 'gydweddiadau' yn anghywir.

Mae'r meddalwedd wedi cael ei ddefnyddio gan heddlu'r De ar gyfer digwyddiadau mawr fel rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2017, gemau rygbi rhyngwladol a chyngherddau gan Liam Gallagher a Kasabian.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y meddalwedd ei ddefnyddio gan Heddlu'r De wrth blismona ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd y llynedd

Nid yw'r meddalwedd sy'n cael ei ddefnyddio gan Heddlu'r De na Heddlu Llundain wedi cael ei brofi am gywirdeb ymysg grwpiau gwahanol o'r boblogaeth, ond mae pryderon yn yr Unol Daleithiau fod meddalwedd adnabod wynebau yn llai cywir ar gyfer menywod a phobl ddu.

Meddai adroddiad Big Brother Watch: "Mae cam-gydweddiadau anghymesur yn cynyddu risg o or-blismona lleiafrifoedd ethnig ar sail 'gwrthrychedd' technolegol.

"Bydd y broblem yma yn waeth os fydd yr heddlu yn defnyddio'r meddalwedd mewn ardaloedd sydd â phoblogaeth uchel i leiafrifoedd ethnig."

'Pryderus'

Dywedodd cyfarwyddwr Big Brother Watch, Silkie Carlo: "Ry'n ni'n gweld pobl gyffredin yn gorfod dangos ID i brofi eu bod yn ddieuog wrth i'r heddlu adnabod ar gam miloedd o ddinasyddion diniwed fel troseddwyr.

"Mae'n bryderus iawn ac yn annemocrataidd fod yr heddlu'n defnyddio technoleg sydd bron yn gyfan gwbl wallus, ac nad oes ganddyn nhw rym cyfreithiol amdano ac sy'n peri risg sylweddol i'n rhyddid."

Wrth ymateb i adroddiad Big Brother Watch, dywedodd llefarydd ar ran heddlu De Cymru mewn datganiad:

"Mae Heddlu De Cymru wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu'r dechnoleg hon ac rydym wedi ystyried y materion moesegol a phreifatrwydd sy'n codi o AFR (technoleg adnabod wynebau) o'r cychwyn cyntaf.

"Ers ei gyflwyno naw mis yn ôl, mae dros 2,000 o gydweddiadau positif wedi'u gwneud gan ddefnyddio ein technoleg adnabod, gyda dros 450 o arestiadau. Mae euogfarnau llwyddiannus hyd yn hyn yn cynnwys 6 mlynedd yn y carchar am ladrad a 4.5 mlynedd o garchar am fwrgleriaeth.

"Wrth gwrs, nid oes system adnabod wynebau sydd 100% yn gywir, sy'n arwain at yr hyn a elwir yn "positif ffug". Mae materion technegol yn gyffredin i bob system adnabod wynebau, sy'n golygu y bydd positifau ffug yn broblem wrth i'r dechnoleg ddatblygu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae hefyd yn bwysig pwysleisio, ers i ni gyflwyno technoleg adnabod wyneb, ni chafodd neb ei arestio lle mae "rhybudd cadarnhaol ffug" wedi digwydd ac nid oes unrhyw aelodau o'r cyhoedd wedi cwyno. Mae hyn oherwydd y pwysigrwydd yr ydym yn ei roi ar farn ddynol.

Ym mhob achos, bydd swyddog yn ystyried rhybudd cychwynnol a bydd naill ai'n ei anwybyddu, sy'n digwydd ym mwyafrif yr achosion, neu'n anfon tîm ymyrryd lle ystyrir bod cydweddiad wedi digwydd.

"Lle bo hyn yn digwydd, gall swyddogion sefydlu'n gyflym os yw'r person wedi bod yn gywir neu'n anghywir drwy ddulliau plismona traddodiadol, naill ai trwy edrych ar yr unigolyn neu drwy sgwrs fer.

Os oes cydweddiad anghywir wedi digwydd, bydd swyddogion yn esbonio i'r unigolyn beth sydd wedi digwydd ac yn eu gwahodd i weld yr offer ynghyd â rhoi Hysbysiad Prosesu Teg iddynt.

"Trwy gydol y treial, mae Heddlu De Cymru wedi bod yn ymwybodol iawn o bryderon ynghylch preifatrwydd ac rydym wedi cynnwys gwiriadau yn ein methodoleg i sicrhau bod ein dull gweithredu yn gyfiawn ac yn gytbwys."