Annog pobl sy'n disgwyl am aren i barhau i gysgodi
- Cyhoeddwyd
Mae casgliad o elusennau a sefydliadau yr aren yn annog y rheiny sydd angen neu wedi derbyn trawsblaniad i "anwybyddu'r llywodraeth".
Mae pobl sydd wedi bod yn aros am drawsblaniad ymhlith y rheiny sydd wedi cael cyngor i aros adref er mwyn gwarchod eu hunain rhag coronafeirws.
Bydd y cyfnod cysgodi yn dod i ben yng Nghymru ddydd Llun ond dyw pawb ddim yn croesawu'r newyddion yna.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai unrhyw un sy'n bryderus am orffen cysgodi ofyn am gyngor eu meddygon.
'Angen parhau i gysgodi'
Dywedodd Fiona Loud, prif weithredwr Kidney Care UK wrth BBC Cymru: "Mae'r rhai sydd yn fregus eu hiechyd yn haeddu pob amddiffyniad gan y llywodraeth a'r rheiny sydd yn ddigon ffodus i fod wedi derbyn trawsblaniad angen parhau i gysgodi.
"Mae angen iddyn nhw hunan-ynysu yn llwyr er mwyn diogelu'r aren werthfawr yna a'r siawns maen nhw wedi'i gael.
"Mae angen cymorth ariannol ac o ran gwaith. Dy'n ni heb weld bod unrhyw beth yn ei le i'n sicrhau bod hynny am ddigwydd."
Mae bygythiad coronafeirws a'r cyfnod clo wedi bod yn anodd i adrannau trawsblaniadau ar hyd a lled y DU.
Yn ôl ystadegau swyddogol, 11 yn unig o organau gafodd eu trawsblannu yng Nghymru rhwng Ebrill a Gorffennaf.
Bu drysau unig uned drawsblannu Caerdydd ar gau yn llwyr rhwng 12 Mawrth a 29 Mehefin.
Maen nhw wedi ailagor yn raddol ond dyw pawb ddim 'nôl ar y rhestr aros o hyd.
Yn ôl Dr Aled Lewis, sy'n ymgynghorydd arennol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn y brifddinas, er eu bod nhw'n awyddus i groesawu'r holl gleifion 'nôl i'r rhestr aros yn yr wythnosau nesaf, pwyll biau hi am y tro.
"Ni 'di edrych ar bob claf sydd ar y rhestr drawsblannu yn unigol i edrych ar y risgiau sydd gyda'r claf yna," meddai.
"Mae pobl hŷn, er enghraifft, â risg uwch o ddioddef oherwydd y feirws.
"Ni'n gweithio'n galed i drio cael lefelau [trawsblannu] 'nôl i'n lefelau arferol ni, ond dy'n ni ddim cweit yna eto."
Canslo trawsblaniad oherwydd Covid
Un sy'n deall y bygythiad sy'n dal yn bresennol oherwydd y feirws yw Carwyn Jones.
Mae'r gŵr 33 oed o Bontsiân, Ceredigion, wedi bod yn aros am drawsblaniad dwbl - aren a phancreas - ers dwy flynedd.
Tair wythnos yn ôl fe gafodd alwad ffôn i fynd ar frys i Ysbyty Athrofaol Cymru.
"Bore dydd Mawrth am 07:30 ges i'r alwad fi 'di bod yn disgwyl amdano fe am drawsblaniad," meddai.
"Es i lawr i Gaerdydd ac o'dd popeth yn edrych yn good - disgwyl 'mlaen mai hwn oedd fy nhro i nawr i gael trawsblaniad.
"Yn anffodus, am 02:00 bore Mercher, ga'th y cwbl ei ganslo."
Roedd rhywun arall ar yr uned wedi profi'n bositif am Covid-19.
Bu'n rhaid i'r uned gau, cafodd yr organau eu cymryd at glaf arall, ac roedd yn rhaid i Carwyn ddychwelyd i Geredigion heb y trawsblaniad hollbwysig.
"Mae fe'n siom, ond mae bywyd yn dal i fynd 'mlaen i fi," meddai.
"Yn anffodus, rhywle, mae teulu wedi colli rhywun agos iawn iddyn nhw."
'Wedi bod yn galed'
Er bod y llywodraeth yn dweud y bydd y cyfnod cysgodi yn dod i ben ddydd Llun, y cyngor gan sefydliad yr aren i'r rheiny fel Carwyn, sydd ar y rhestr aros am drawsblaniad, yw i barhau i gysgodi.
Er gwaethaf anawsterau'r misoedd diwethaf, mae e'n sylweddoli pwysigrwydd diogelu ei hun, ac yn gobeithio y caiff ei freuddwyd o dderbyn trawsblaniad ei gwireddu cyn hir.
"Mae wedi bod yn galed - gorfod sefyll yn y tŷ pan ni'n used i fynd mas a gweld ffrindiau, teulu a mynd i'r gwaith," meddai.
"Ond mae'n rhaid i fi 'neud e achos iechyd.
"Bywyd i fi yw dialysis pum gwaith yr wythnos dros nos, wyth awr a hanner dros nos, a so chi'n byw eich bywyd gore wrth ddibynnu ar machine i aros yn fyw.
"Gobeithio ga'i alwad arall mwy llwyddiannus cyn hir."
'Gofyn am gyngor clinigol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dylai cleifion sy'n disgwyl am, neu sydd wedi derbyn trawsblaniad, ac sy'n bryderus am orffen cysgodi, ofyn am gyngor eu clinigwr neu dîm trawsblaniad am gyngor.
"Gall cysgodi gael effaith negyddol ar iechyd corfforol a meddygol, felly mae'n bwysig nad ydym yn gofyn i bobl gysgodi am yn hirach na sydd angen.
"Gan fod lefel y feirws yn ein cymunedau nawr yn isel, ry'n ni wedi cymryd y penderfyniad i atal cysgodi o 16 Awst.
"Mae hyn yn golygu bod y rheiny sydd wedi bod yn cysgodi yn gallu dychwelyd i'w bywydau arferol yn raddol, ond gan gymryd gofal o ran cadw pellter a golchi dwylo.
"Byddwn yn adolygu hyn yn gyson."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2019