Rhodd o gariad: dathlu pum mlynedd ers rhoi aren i chwaer

  • Cyhoeddwyd
Llio a FfionFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cariad chwaer: yn yr ysbyty yn Lerpwl ac ar noson allan

Pan gynigodd Ffion ei haren i'w chwaer Llio ar gyfer trawsblaniad, heblaw am risg y driniaeth roedd siawns 50-50 na fyddai'n gallu cael plant.

Bum mlynedd yn ddiweddarach, mae hi'n falch ei bod wedi bwrw ymlaen er gwaetha'r peryg gan fod ei chwaer nawr yn holliach - a hithau'n fam i ddau o hogiau.

Fe gafodd Llio Meleri ei rhoi ar restr trawsblaniad ar ôl iddi fynd yn wael pan yn ddeunaw oed. Roedd hi'n astudio drama yn y brifysgol yng Nghaerfyrddin ar y pryd ac yn gorfod mynd ar beiriant dialysis.

Wrth i'r afiechyd prin FSGS gael effaith arni fe benderfynwyd bod rhaid iddi cael trawsblaniad aren yn llawer cynt na'r disgwyl.

Doedd dim rhaid mynd yn bell iawn i ffeindio un - roedd ei chwaer Ffion yn dal i rannu llofft gyda hi yn eu cartref yng Ngarndolbenmaen, ger Porthmadog.

Roedd profion yn dangos y byddai corff Llio yn debygol o dderbyn yr organ ac o fewn dim roedd y ddwy yn Ysbyty'r Royal, Lerpwl, yn cael llawdriniaeth.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Llio yn syth wedi'r driniaeth

"Dwi'n cofio Mam yn dweud mod i wedi mynd lawr i'r theatr yn llwyd a dod 'nôl efo lliw yn fy mochau," meddai Llio, sydd bellach yn byw yn Nhrawsfynydd, ac yn cael profion bob tri mis o hyd.

"Dwi heb gael problemau o gwbl wedyn. Mae'n imiwnedd i'n isel, wel sgen i ddim imiwnedd mewn ffordd oherwydd y cyffuriau dwi'n gorfod eu cymryd - felly dwi'n cael pethau fel tonsilitis. Bob dim mae pawb arall yn cael dwi'n cael - ond ychydig bach yn waeth."

Mae hi'n cael ei hystyried yn 'risg uchel' oherwydd y coronafeirws ac yn rhan o'r grŵp gafodd eu cynghori i aros gartref yn gyfan gwbl.

"Ar y dechra' ro'n i'n poeni ac roedd y sefyllfa a gwylio'r newyddion yn gwneud fi'n nerfus, ond wedyn nes i ddechrau meddwl 'os dwi'n cael o dwi'n cael o', a dwi'n trio cario 'mlaen heb feddwl am y peth," meddai.

"Mae o'n rhan o fy nghymeriad i hefyd, eitha' ffwrdd a hi, a'r mwya' mae rhywun yn meddwl amdano mae'n gallu gwneud chi'n sâl yn feddyliol."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Edrych ymlaen i'r dyfodol: diwrnod priodas Ffion ac Aaron (y cwpwl yng nghanol y llun), gyda Llio a'i dyweddi Gwion

Sioc o ddisgyn yn feichiog

Tydi ei chwaer Ffion, sy'n byw ym Mhwllheli ac yn gweithio mewn cartref gofal yn Nefyn, ddim yn yr un sefyllfa.

Doedd cymryd cyffuriau gwrth-imiwnedd weddill ei hoes ddim yn rhan o'r fargen iddi hi yn 2015, ond roedd ystyriaethau eraill i bwyso a mesur.

Meddai: "Wnaethon nhw ddweud y byddai'n 50-50 os faswn i'n gallu cael plant. 'Dan ni'n deulu mawr, ac mae plant yn rhan fawr o'r teulu. Ar y pryd ro'n i'n meddwl, 'wel os fydda i methu cael plant dyna ni, mae'n well gen i safio bywyd fy chwaer, ac mae yna ffyrdd eraill o gwmpas y peth yn does'.

"Felly roedd o'n eitha' sioc pan nes i ffeindio allan mod i'n disgwyl tro cynta'. Roedd Mam a Dad wedi gwirioni - a phawb arall hefyd."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Owen a Caio - plant Ffion

"Nesh i erioed feddwl peidio rhoi'r aren," ychwanegodd. "'Dan ni mor agos, a mond blwyddyn rhwng y ddwy ohona ni. Dwi'm yn meddwl llawer am y peth, ond weithiau pan dwi'n sôn wrth rywun yn y gwaith neu ffrindiau dwi'n sylweddoli bod o'n beth mawr i'w wneud.

"Weithiau dwi'n meddwl 'be' os fydda un o'm mhlant i'n mynd drwy rywbeth tebyg?', a dwi'n sylweddoli be' aeth Mam a Dad drwyddo efo dau o'u plant yn cael triniaeth 'run pryd. Roedd hynny'n anodd."

Nodi 'pen-blwydd' y trawsblaniad

Bob blwyddyn fe fydd y chwiorydd yn ceisio nodi diwrnod y driniaeth, ac mae'r ddwy wedi gwneud un peth fydd yn siŵr o'u hatgoffa'n aml.

Meddai Llio, sy'n gweithio fel athrawes yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog, erbyn hyn: "Ro' i 'n cael cerdyn gan Ffion bob blwyddyn am tua dwy flynedd, wedyn wnaeth hynny stopio pan gafodd hi blant - rhy brysur! Rwan 'dan ni'n trio gwneud rhywbeth - dod at ein gilydd, dwi'n mynd i lle ni neu hi'n dod i fama."

Ychwanegodd Ffion: ""Dwi wedi cael tatŵ ar fy nhroed a mae Llio wedi cael un ar ei chefn. Mae hi wedi cael rhywbeth mae hi wedi sgwennu ac wedyn enw fi a'r dyddiad, a dwi wedi cael y dyddiad a'i initials hi."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Dywed Llio ei bod yn ddiolchgar iawn i'w chwaer am ei rhodd a bod ganddi anrheg diolch iddi y flwyddyn nesaf.

Oherwydd argyfwng y coronafeirws mae hi wedi gorfod gohirio ei phriodas gyda'i dyweddi Gwion tan fis Mai 2021.

"Ffion ydi'r brif forwyn," meddai. "Fydd hwnna'n bresant diolch neis iddi."

Hefyd o ddiddordeb: