Breuddwyd dylunydd yn parhau er gwaetha'r pandemig

  • Cyhoeddwyd
Swyn AnnaFfynhonnell y llun, Swyn Anna
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Swyn Anna ar flwyddyn olaf ei gradd mewn dylunio ffasiwn

Yn benderfynol o beidio â gadael i effeithiau'r pandemig amharu ar ei gobeithion o weithio yn y byd ffasiwn, mae myfyrwraig 22 oed o Ben Llŷn wedi penderfynu parhau â'i huchelgais drwy weithio o sied yn ei chartref.

Roedd Swyn Anna Rice Roberts o Nefyn i fod ar y ffordd i Lundain yr haf yma i arddangos casgliad o ddillad roedd hi wedi eu cynllunio fel rhan o'i chwrs gradd.

Ond cafodd y cyfle - pinacl y cwrs a ffenest siop i ddylunwyr fel hi - ei gipio oddi arni yn ddisymwth oherwydd Covid-19.

"Chafon ni ddim y cyfleoedd o'n i wedi bwriadu eu cael, oedd hwnna'n gyfle i ni gael arddangos ein gwaith a siarad am ein gwaith," meddai.

"Mae'n gyfle i chi gael stand eich hunain i ddangos eich gwaith, cael pobl reit bwysig yn y byd ffasiwn i sbïo ar eich gwaith."

Ffynhonnell y llun, SWYN ANNA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Swyn Anna wedi sefydlu gweithdy yng ngwaelod yr ardd yn ei chartref yn Nefyn

Cafodd hi a'r myfyrwyr eraill ym Mhrifysgol De Montford yng Nghaerlŷr wybod ar ddechrau'r cyfnod clo bod yn rhaid gadael y brifysgol.

Roedd hynny hefyd yn golygu gadael y peiriannu arbenigol sydd yno a fyddai wedi ei helpu i orffen y gwaith ar gyfer ei chasgliad.

Ar y dechrau roedd hynny'n anodd, meddai.

"Oedd o yn drist dod o ddinas a byw adre', oedd o'n anodd ffeindio creadigrwydd mewn environment fatha adre - s'geno chi ddim yr adnoddau.

"Ond dwi'n meddwl hefyd ei fod o'n gyfle i arbrofi a gweld dulliau eraill o wneud pethau."

'Pwysig dal i drïo'

Erbyn hyn mae hi wedi prynu peiriant gweu ac yn dylunio a gweithio o sied yn ngwaelod yr ardd.

"Dwi yn y broses o wneud y gweithdy rŵan, dwi'm mynd i arbenigo dwi'n meddwl mewn gweu, ond hefyd gwnïo a defnyddio peiriant gwnïo hefyd," meddai.

"Dwi'n gweld Instagram yn dda ac yn gyfle i ddangos gwaith a chysylltu â phobl yn y busnes hefyd."

Ffynhonnell y llun, Swyn Anna

Ar ôl graddio roedd hi wedi gobeithio cael cyfle i weithio gydag un o gwmnïau mawr y byd ffasiwn.

Nawr ynghyd â dylunio o adre dyma yw ei dymuniad o hyd.

"Dwi'n gobeithio at fis Ionawr y bydd pethau wedi newid ac y bydd mwy o gyfleoedd i fynd am internships," meddai.

"Dwi'n meddwl bod o'n bwysig dal i drïo er mwyn cael gweld sut mae'r byd ffasiwn yn gweithio ac i weithio i gwmni."