Ateb y Galw: Yr actores Elen Morgan
- Cyhoeddwyd
Yr actores Elen Morgan sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Tom Blumberg yr wythnos diwethaf.
Cafodd Elen ei magu yng Nghei Newydd a Llandysul. Bu'n gymeriad rheolaidd yn Pobol y Cwm am ddwy flynedd tra'n ddisgybl yn ysgol Dyffryn Teifi, cyn symud ymlaen i Rownd a Rownd am 6 mlynedd a hanner ar ôl graddio o'r coleg.
Mae hi'n gweithio i Fenter Cwm Gwendraeth Elli, ac yn cydlynu'r theatr iau ac yn rhan o'r tîm sydd yn rhedeg theatr hŷn y Fenter. Bydd Nadolig eleni ychydig yn wahanol iddi, gan ei bod yn disgwyl ei phlentyn cyntaf ar ddiwedd mis Tachwedd, ac yn dysgu yn gloi cymaint sydd ei angen ar fabis!
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Pan o'n i'n fach bydde ni'n aml yn mynd i aros gyda Mamgu a Dadcu yn Horeb, Llandysul. Yn ystod y siwrne bydden i'n aml yn cwmpo i gysgu, a ma'n siŵr odd e'n waith caled i gal fi i gysgu yn y nos os o'n i wedi cal danger nap yn y car.
Un o fy atgofion cyntaf yw Dadcu yn gyrru y car, a bob tro bydde'n llyged i yn dechrau cau, bydde Dadcu yn gweiddi 'Bwni, bwni'. Bydden i'n dihuno yn syth ac yn edrych mas am fwni yn croesi'r rhewl. Wrth gwrs doedd 'na ddim un 'bwni' ond o'dd e'n gweitho bob tro ac yn cadw fi ar ddihun.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?
Leonardo DiCaprio, neu cymeriad Jack odd e'n chware yn Titanic - y llygaid!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Atgof sydd wedi aros 'da fi ar hyd y blynydde o'dd bod yn yr archfarchnad pan o'n i'n fach, ac yn rhoi siocled yn y troli cyn mynd i ddala llaw Dad. Gymrodd hi ychydig o eiliade cyn i fi feddwl bod rhywbeth ddim cweit yn iawn. Dim troli ni odd e, a dim llaw Dad o'n i'n dala. Cywilydd!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
'Sai yn un sy'n llefen yn aml iawn, ond ma' diweddglo The Greatest Showman WASTAD yn neud i fi lefen. Ma' 'na ddyfyniad gan P.T Barnum yn ymddangos reit ar ddiwedd y ffilm ac am ryw reswm mae e wastad yn tynnu deigryn:
"The noblest art is that of making others happy"
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Ma' 'na lwyth 'da fi! Ma'n siŵr taw'r un gwaetha bydde bod fi wastad yn hwyr. Ma'n ddigon posib taw'r unig le fi wedi bod ar amser yw priodas fy hunan - ac oedd hawl 'da fi fod yn hwyr i hwnna!
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Ar lan yr afon Teifi ar bwys ble ma' Mam a Dad yn byw. Fel ddywedodd Cynan - 'Rhowch i mi Deifi, Llandysul, bob tro'. Ma' 'na rywbeth sbesial iawn am y lle!
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Ma' 'na ormod i ddewis ond un. Wythnosau Steddfod Gen, dilyn Cymru yn yr ymgyrch i gyrraedd yr Ewros, nosweithiau gwyllt Caerfyrddin; cymaint o atgofion, a ffrindiau da wrth wraidd pob un.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Ffyddlon, stwbwrn, gofalgar.
O archif Ateb y Galw:
Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?
Dwi ddim yn un sydd yn darllen rhyw lawer ond yn ystod y cyfnod rhyfedd ma, ry'n ni wedi dechrau clwb darllen rhithiol gyda'r Fenter ac ry'n ni wedi darllen rhyw bedair nofel Gymraeg erbyn hyn. Nes i fwynhau Merch y gwyllt, Bethan Gwanas yn fawr iawn.
Hoff ffilm - Ffilm priodas Gareth a finne.
Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Ma' gyda fi dystysgrif cynradd mewn ballet wrth y British Ballet Organisation. Y darn mwyaf postif sydd yn yr adroddiad yw 'Elen tried hard to please'... Barodd y ballet ddim yn hir iawn.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bwyta ac yfed gyda'n nheulu a'n ffrindie ar lan yr afon Teifi.
Beth yw dy hoff gân?
Y Border Bach - Jac a Wil.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Un o hoff gerddi Dadcu. Mae e dal yn gallu adrodd y gerdd o'i gof er y dementia. Ma'r geiriau yn hyfryd. Yn ddiweddar glywes i ddatganiad ohoni gan Bryn Terfel a Rhys Meirion. Gwrandewch a mwynhewch.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?
Mam-gu. O'n i'n agos iawn iddi yn tyfu lan a natho ni golli hi pan o'n i'n 15 a hithe ond yn 66. Bydde fe'n neis cal cwtsh a bydde 'da fi lwyth o gwestiyne i ofyn iddi.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?
Un o fy hoff bethe - BWYD!
Cwrs cyntaf - Cregyn gleision.
Prif Gwrs - Stêc ffiled, medium rare gyda'r trimins i gyd.
Pwdin - Cacen gaws.
Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Nes i wir fwynhau Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn ddiweddar, ac yn enwedig Ronnie O'Sullivan. Mae e'n berson mor arbennig o dalentog a diddorol, bydden i wrth yn modd yn byw fel y dyn i hun am ddiwrnod. Dim ar ddiwrnod feinal pencampwriaeth y byd er 'ny. Mae e'n bach o ddewin. Sai'n credu bydden i'n 'neud unrhyw ffafre â fe.
Pwy wyt ti'n ei enwebu nesaf?
Dafydd Rhys Evans