Cynhadledd wanwyn y Ceidwadwyr yn dod i Gasnewydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Plaid Geidwadol y DU yn cynnal eu cynhadledd wanwyn yng Nghasnewydd yn y cyfnod cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021.
Dywedodd y blaid fod disgwyl hyd at 8,000 o bobl yn y digwyddiad yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (CGR), ac y bydd yn rhoi hwb o £20m i'r economi leol.
Yn ôl cyd-gadeirydd y Torïaid, Amanda Milling, bydd hyn yn "dod â chefnogwyr Ceidwadol ar draws y wlad at ei gilydd mewn blwyddyn etholiadol allweddol i Gymru".
Dywedodd y CGR bod y newyddion yn "hwb anferthol i'n diwydiant digwyddiadau".
Dywedodd y prif weithredwr, Ian Edwards, y byddai'r gynhadledd ym mis Mawrth yn gymorth i'r sector "wrth i ni geisio gwella o effeithiau dinistriol y pandemig Covid-19".
Ychwanegodd y Ceidwadwyr y bydd y gynhadledd wanwyn yn digwydd "ochr yn ochr" â chynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig y flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2020