Cysgodi yn dod i ben i 130,000 o bobl yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sydd â chyflyrau iechyd yn dweud bod ganddyn nhw deimladau cymysg, wrth i gysgodi ddod i ben i 130,000 o bobl yng Nghymru ddydd Sul.
Mae'r rheiny sydd fwyaf bregus i Covid-19 wedi cael cais i aros yn eu cartrefi ers dechrau'r pandemig.
Mae pobl oedd yn cysgodi wedi cael cyngor i sicrhau eu bod yn cadw pellter cymdeithasol a golchi eu dwylo yn gyson.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y gallai eu cyngor i bobl fregus newid eto yn y dyfodol os ydy achosion yn dechrau cynyddu.
Ond mae rhai grwpiau yn bryderus bod peidio â chysgodi yn ormod o risg, gyda chasgliad o elusennau a sefydliadau yr aren yn annog y rheiny sydd angen neu wedi derbyn trawsblaniad i "anwybyddu'r llywodraeth".
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y dylai unrhyw un sy'n bryderus am orffen cysgodi ofyn am gyngor eu meddygon.
'Bywyd ddim 'run fath o gwbl'
Un person ifanc sydd wedi gorfod hunan-ynysu drwy gydol y misoedd diwethaf ydy Rhodri Thompson o Lanberis.
Mae Rhodri newydd orffen ei gyfnod yn ysgol arbennig Pendalar yng Nghaernarfon, ac oherwydd y cyfyngiadau doedd o ddim yn gallu bod yno i ffarwelio gyda'i ffrindiau.
Ddechrau Mawrth cafodd lawdriniaeth ar ei goluddyn ac mae ganddo gyflwr sy'n effeithio ar ei gyhyrau a'i allu i anadlu.
O ganlyniad mae wedi gorfod hunan-ynysu ers canol mis Mawrth.
Mae Rhodri wrth ei fodd yn ysgrifennu sgriptiau, ac mae hynny wedi difyrru rhywfaint arno yn ystod y misoedd diwethaf, ond ag yntau yn berson cymdeithasol mae peidio gallu cael cwmni wedi bod yn boendod.
"Y peth gwaethaf am hunan-ynysu ydy dwi ddim yn gallu gweld ffrindiau a hefyd dwi'n methu mynd i dŷ Nain," meddai.
"Dwi wedi bod yn mynd am dro yn y car i Parc Padarn a dwi yn gweld Nain wrth sefyll dau fetr i ffwrdd.
"Dydy bywyd ddim wedi bod 'run fath o gwbl i fi oherwydd dwi ddim yn gallu gwneud y petha' dwi'n arfer eu gwneud."
'Gwneud dim byd yn wahanol'
Wrth i'r cyfnod cysgodi ddod i ben bydd modd i Rhodri fynd i weld ei deulu a'i ffrindiau, ond mae'n d'eud fod y misoedd diwethaf wedi bod yn rhai anodd.
"Mae o wedi gwneud i fi deimlo yn ddigalon, ac yn fed-up yn y tŷ, ac unwaith y bydd hyn drosodd i gyd gobeithio ga'i fynd i dŷ nain eto a gweld ffrindiau," meddai.
Mae mam Rhodri, Olwen Harries, hefyd wedi bod yn hunan-ynysu, ond mae hi'n bryderus am yr hyn fydd yn digwydd wrth i'r cyfnod cysgodi ddod i ben.
"Mae pawb yn gwirioni ond fyddan ni ddim yn gwneud dim byd yn wahanol achos mae'r feirws dal o gwmpas," meddai.
"Yn Llanberis mae'n brysur ofnadwy, felly fyddan ni ddim yn mynd allan yn fwy rŵan nag oedden ni cynt pan oedd pawb dan y cyfyngiadau ac yn gorfod aros i mewn."
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford wedi pwysleisio mai penderfyniad i unigolion ydy a ddylen nhw beidio cysgodi.
Er na fydd rheolau ar gyfarfod pobl eraill dan do yn cael eu llacio'r penwythnos hwn fel oedd wedi cael ei awgrymu'n flaenorol, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn credu bod risg coronafeirws yn isel yng Nghymru ar hyn o bryd.
"Ar hyn o bryd dyw'r risg ddim yn tyfu yng Nghymru," meddai.
"Ni'n llwyddo wythnos ar ôl wythnos i gael gwared â'r coronafeirws, felly mae'r risg yn isel ar hyn o bryd.
"Dyna pam ni'n gallu dweud wrth bobl sydd wedi bod yn cysgodi, os ydyn nhw eisiau - a dyna'r peth pwysig - mynd i siopa neu wneud pethau bach fel'na, maen nhw'n gallu am fod y risg mor isel.
"Dwi'n gallu gweld fod lot o bobl wedi colli hyder dros y cyfnod coronafeirws, felly lan iddyn nhw yw e."
'Pobl hŷn wedi colli'u hunanhyder'
Dywed elusen Age Cymru eu bod wedi cynnal arolwg barn ymysg pobl hŷn a bod yr adborth yn gymysg ynglŷn â'r newid.
"Mae llawer o bobl hŷn yn edrych ymlaen at ddod allan o gysgodi fel y gallan nhw ymweld â mwy o leoedd a gweld mwy o bobl," meddai'r Prif Weithredwr Victoria Lloyd.
"Fodd bynnag, rydyn ni'n gwybod bod llawer yn poeni am ail-ymgysylltu â'u cymunedau. Mae'n ymddangos bod y pryder hwn yn cael ei danio gan adroddiadau bod pobl yn ymgynnull mewn niferoedd mawr neu ddim yn dilyn arweiniad y llywodraeth.
"Mae eraill wedi dweud wrthym eu bod wedi colli eu hunanhyder a'u bod yn poeni am gymysgu ag eraill mewn canolfannau siopa neu ar drafnidiaeth gyhoeddus."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2020
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd5 Mai 2020