Dim ffordd osgoi i Landeilo tan 2025 ar y cynharaf
- Cyhoeddwyd
Ni fydd gwaith ar ffordd osgoi yn Sir Gaerfyrddin yn dechrau tan 2025 ar y cynharaf, medd llythyr gan Lywodraeth Cymru.
Roedd disgwyl i'r gwaith £50m ar ffordd osgoi Llandeilo ddechrau yn 2019.
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo'r llywodraeth o dorri addewid a wnaed mewn cytundeb cyllideb gyda'r blaid yn 2016.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn parhau wedi ymroi i'r cynllun.
Tagfeydd o achos loriau
Mae trigolion Llandeilo wedi bod yn galw am weithredu ers degawdau. Mae'r dref yn dioddef o dagfeydd am fod lorïau yn gyrru trwy'r brif stryd.
Mae'r stryd ar yr A483 yn cael ei ddefnyddio fel llwybr teithio o Abertawe i ymuno gyda'r A40 i ganolbarth Lloegr.
Roedd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates wedi rhoi addewid y byddai'r gwaith yn dechrau erbyn diwedd 2019.
Yn gynharach eleni daeth cadarnhad y byddai yna oedi ar y gwaith tan hydref 2022 ar y cynharaf.
Mewn llythyr at Aelod Senedd Cymru'r ardal, arweinydd Plaid Cymru, Adam Price mae Mr Skates yn amlinellu amserlen posib ar gyfer y prosiect.
Mae yna fesurau tymor byr, rhai canolig a rhai hir dymor.
Beth yw'r mesurau?
Mae adeiladu "ffordd osgoi Llandeilo" yn cael ei rhestru fel un o'r mesurau hir dymor, fydd o leiaf pum mlynedd i ffwrdd;
Ymhlith y mesurau tymor byr, fydd yn cael eu gweithredu o fewn blwyddyn, mae goleuadau traffig newydd a mwy o lefydd parcio;
Gwella cysylltiadau bysiau o orsaf rheilffordd Llandeilo a chreu "ffordd osgoi Ffairfach" yn Ysgol Bro Dinefwr yw rhai o'r mesurau tymor canolig.
Dywedodd Mr Price bod "oedi eto am y trydydd gwaith yn hollol annerbyniol - yn benodol am fod lefelau llygredd aer yn uwch na'r lefel cenedlaethol ac fe fydd y broblem ond yn gwaethygu".
Mae'r llythyr yn dweud bod yna oedi wedi bod ar yr ymgynghoriad ac mai'r bwriad yw ei gynnal ym mis Medi.
'Parhau yn ymroddedig'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn dilyn "proses arfarnu manwl, yn ogystal â gwneud yn siŵr bod yr adborth gan rhanddeiliaid a lleisiau lleol yn cael eu hystyried.
"Mae hyn yng nghyd-destun y cyfyngiadau sydd yn eu lle yn sgil coronafeirws, sydd yn effeithio ar y ffordd rydyn ni yn gallu gweithio," meddai llefarydd.
Ychwanegodd eu bod yn parhau i weithio gyda phartneriaid perthnasol, gan gynnwys y cyngor, i wneud gwelliannau.
"Rydyn ni yn parhau yn ymroddedig i gyflawni'r cynllun fel rhan o ymdrechion ehangach i wella trafnidiaeth yn yr ardal," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2016