'Byddai'r cathod a'r cŵn wedi boddi petawn ni ddim yma'
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Bowys wedi disgrifio gorfod achub ei hanifeiliaid anwes o lifogydd yn ei chartref wedi glaw trwm ddydd Llun.
Roedd y dŵr wedi llifo i lawr mynydd ger eiddo Margaret Evans yn Abercraf, gan chwalu tarmac ar lôn gerllaw.
O fewn munudau roedd wedi cyrraedd tu fewn i'r tŷ ble y bu'n byw am 34 o flynyddoedd.
Dywedodd y byddai ei chathod a'i chŵn "wedi boddi yn y gegin petawn ni ddim wedi bod yna".
Cafodd cypyrddau, bwrdd a chadeiriau eu difrodi ac roedd ei pheiriant golchi'n arnofio yn y dŵr.
Ond y bygythiad i'r anifeiliaid anwes oedd ei phrif destun gofid.
"Ffodus"
"Roedd y cathod yn yr ystafell arall, roedden nhw'n nofio felly aethon ni â nhw i fyny grisiau," meddai Mrs Evans, sydd hefyd â dau gi chihuahua.
"Roedden ni'n ffodus ein bod ni yma."
Dywedodd nad yw erioed wedi gweld llifogydd tebyg yn y pentref o'r blaen.
Roedd yng nghanol gwneud te pan welodd "ychydig o ddŵr yn dod i lawr.
"Dywedais wrth fy merch i symud ei char, ac yna o fewn 10 munud roedd yn rhedeg i lawr y ffordd fel afon.
"Doeddwn i methu credu faint o ddŵr ddaeth i lawr mewn cyn lleied o amser."
Mae gweithwyr Cyngor Powys wedi treulio nos Lun a dydd Mawrth yn clirio a glanhau, symud rwbel a dadflocio'r ffrwd sy'n llifo lawr Ffordd Tanyrallt, ble mae Mrs Evans yn byw.
Fe wnaeth dwsinau o gartrefi ar draws rhannau o'r canolbarth ddioddef llifogydd wedi cawodydd trwm lleol ddydd Llun.
Ystradgynlais ac Abercraf gafodd eu taro waethaf ond cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw hefyd i bwmpio dŵr o adeiladau yn Aberteifi, yng Ngheredigion.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd16 Awst 2020