Rhybudd am stormydd ar gyfer Cymru dros y penwythnos
- Cyhoeddwyd

Stormydd dros Nant-y-glo ym Mlaenau Gwent yn gynharach yn yr wythnos
Mae rhybuddion am stormydd yn parhau mewn grym ar gyfer Cymru gyfan ddydd Sul a dydd Llun.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn dweud y gallai glaw trwm achosi llifogydd, gyda phosibilrwydd y bydd hyd at 5cm o law yn casglu o fewn ychydig oriau.
Maen nhw'n rhybuddio hefyd y gallai'r stormydd gael effaith ar gyflenwadau trydan.
Daw'r mellt a tharanau yn dilyn cyfnod hir o dywydd poeth dros yr wythnosau diwethaf.
Fe wnaeth stormydd arwain at lifogydd mewn rhai mannau yr wythnos hon, gan gynnwys yn Aberystwyth ddydd Llun.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst 2020
- Cyhoeddwyd10 Awst 2020