Pobl ifanc yn mentro i'r byd busnes er gwaethaf Covid
- Cyhoeddwyd
Dros fisoedd y cyfnod clo mae 14 o bobl ifanc yng Ngwynedd a Môn wedi bod wrthi'n brysur yn datblygu eu busnesau eu hunain drwy gynllun Llwyddo'n Lleol gan Menter Môn.
Bydd yn rhaid iddyn nhw fynd i ffau'r llewod i wynebu panel o arbenigwyr i gael eu holi, gyda'r enillydd yn hawlio gwobr o £1,000.
Un sydd wedi dechrau ei fusnes ei hun ydy'r ffermwr ifanc Huw Jones, sy'n godro defaid ar fferm yng Nghoedana ger Llannerch-y-medd.
Dywedodd Huw wrth Cymru Fyw: "Mynd yn ôl rhyw 12 mis, es i draw i Ffrainc i weld sut ma' nhw'n godro defaid yn fanno… o'n i'n licio be' o'n i'n weld a dod adref a siarad efo Dad a gweld potensial felly mynd amdani."
Croesiad o ddefaid Almaeneg a Ffrengig mae o'n godro, ac ar hyn o bryd mae ganddo 50 ohonyn nhw.
Mae'n gobeithio dyblu maint y ddiadell yn y dyfodol.
"Dwi'n gwerthu'r llaeth yn amrwd i Gwmni Cosyn Cymru sydd yn gwneud caws caled a meddal a iogwrt efo cynnyrch felly," meddai.
"Yn y dyfodol dwi'n gobeithio gwneud ysgytlaeth fy hun hefyd - dyna ydy'r bwriad, sef ysgytlaeth llawn protein a chalsiwm."
Ac o Fôn i Eifionydd, lle mae Anna Kinnibrugh wedi sefydlu Y Guddfa Gudd yn ei chartref ym Mwlch Derwin.
Yma mae ganddi ardd ac anifeiliaid o bob math ac yma mae pobl ifanc a hŷn sydd angen cymorth yn cael noddfa.
Dywedodd Anna wrth Cymru Fyw: "Mae ganddom ni anifeiliaid fferm sydd wedi cael eu hail gartrefu neu eu hachub i helpu pobl sy'n dioddef o salwch meddwl neu anabledd neu sy'n mynd trwy amser caled mewn bywyd.
"Mae pobl ifanc yn dŵad ac yn gweithio efo'r anifeiliaid gwahanol i ddysgu sut i edrych ar eu holau nhw'n iawn ac i ddysgu sut i barchu nhw."
Mae 'na amrywiaeth mawr i'r 14 o fusnesau sydd wedi cael eu sefydlu gan y bobl ifanc, sydd i gyd rhwng 18 a 25 oed.
Mae Geraint Hughes o Fenter Môn yn un o'r mentoriaid.
"Wel 'da ni wedi gorfod addasu eleni wrth gwrs efo'r Covid a 'de ni wedi bod yn cynnal sesiynau wythnosol efo'r criw o 14 drwy ddefnyddio llwyfan digidol," meddai.
"Bob bore Mercher 'da ni wedi bod yn dod ynghyd i rannu syniadau…tynnu arbenigwyr a siaradwyr gwadd i mewn fel bod y criw ifanc 'ma yn cael llu o brofiadau fydd yn helpu nhw i weu ffordd ymlaen drwy'r her 'ma o ddatblygu busnes. Mae pob un yn datblygu menter ifanc newydd ar hyn o bryd."
Bydd yn rhaid iddyn nhw wynebu panel o ddreigiau busnes i sôn am eu menter pan fydd un o'r 14 yn dod i'r brig ac yn cael gwobr o £1,000.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2020
- Cyhoeddwyd4 Awst 2020