Cynghrair y Pencampwyr: Cei Connah 0-2 Sarajevo

  • Cyhoeddwyd
Hwn oedd y tro cyntaf i Gei Connah chwarae yng Nghynghrair y PencampwyrFfynhonnell y llun, @the_nomads
Disgrifiad o’r llun,

Hwn oedd y tro cyntaf i Gei Connah chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr

Colli o ddwy gôl i ddim wnaeth tîm pêl-droed Cei Connah yn erbyn Sarajevo yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr nos Fercher.

Fe ddaeth gôl gyntaf yr ymwelwyr wedi 16 munud a hynny gan Benjamin Tatar wedi amddiffyn llac gan y Nomadiaid.

Tatar hefyd a sgoriodd yr ail gôl i Sarajevo wrth iddo saethu drwy'r canol heibio i'r gôl-geidwad Lewis Brass ar ôl 65 munud.

Roedd hi'n gêm danllyd gystadleuol ac er mai Sarajevo a gafodd y rhan fwyaf o'r meddiant, roedd yna gyfleon i Gei Connah.

Ychydig funudau cyn y diwedd roedd Jamie Insall ar dân ond methu wnaeth ei ymgais i sgorio.

Cafodd y gêm ei chynnal y tu ôl i ddrysau caëedig yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gan fod y stadiwm yn cydymffurfio â safonau UEFA.

Oherwydd newidiadau yn sgil y pandemig coronafeirws, dim ond un cymal oedd i'r gêm yn hytrach na'r ddau arferol.

Dyma'r tro cyntaf i Gei Connah chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Yn gynharach eleni cafodd Cei Connah eu coroni'n bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf wedi i'r Gymdeithas ddod â'r tymor i ben.

Bydd Sarajevo yn chwarae oddi cartref yn erbyn Dynamo Brest o Belarws yn yr ail rownd yr wythnos nesaf.

Mae Cei Connah yn y sefyllfa anffodus o fod allan o Gynghrair y Pencampwyr 2020/21 cyn i gystadleuaeth 2019/20 ddod i ben.