Llofruddiaeth Penygraig: Diffynydd yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae barnwr wedi gofyn am adroddiadau seiciatryddol ar ddynes sydd wedi'i chyhuddo o lofruddio pensiynwr mewn siop yn Rhondda Cynon Taf.
Mae Zara Radcliffe, 29, o Borth, wedi'i chyhuddo o lofruddio John Rees, 88, o Drealaw, a gafodd ei drywanu yn y Co-op ar Ffordd Tylacelyn, Penygraig ar 5 Mai.
Mae hi hefyd wedi'i chyhuddo o geisio llofruddio Lisa Way, 53, Gaynor Saurin, 65, ac Andrew Price, 58.
Clywodd y llys gan seiciatrydd a archwiliodd Ms Radcliffe ym mis Gorffennaf, ac roedd o'r farn ei bod "yn ffit i bledio o drwch blewyn".
Dywedwyd wrth y llys fod iechyd meddwl y diffynnydd wedi "dirywio" ers yr asesiad hwnnw.
Wrth amddiffyn Ms Radcliffe, dywedodd Jonathan Rees, ei bod wedi cael ei chadw o dan y ddeddf iechyd meddwl er dechrau mis Awst a'i bod yn y ddalfa yn Ysbyty Rampton, Sir Nottingham, lle mae hi'n cael triniaeth.
Gofynnodd y Barnwr Paul Thomas am adroddiadau pellach i benderfynu a ydy Ms Radcliffe yn y cyflwr meddwl gorau i gyflwyno ple erbyn y gwrandawiad nesaf ar 11 Medi.
Mae'n bosib y bydd achos llawn yn dechrau ym mis Hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2020