Morgannwg yn colli eto yn Nhlws Bob Willis

  • Cyhoeddwyd
Emilio GayFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Emiliano Gay oedd prif sgoriwr Northants yn y fuddugoliaeth

Mae Morgannwg wedi colli unwaith eto yn nhlws Bob Willis wrth i Northants eu trechu o chwe wiced

Fe wnaeth Northants ddechrau'r diwrnod olaf ar sgôr o 62-1 wrth iddyn nhw geisio cyrraedd targed o 189 i selio'r fuddugoliaeth.

Bu oedi nes 14:40 cyn i'r chwarae ddechrau ar y diwrnod olaf oherwydd y glaw, ond fe wnaeth Emiliano Gay a Charlie Thurston sicrhau partneriaeth dda cyn i Thurston fynd oddi ar fowlio Dan Douthwaite am 64.

Daeth Luke Procter i'r canol cyn cael ei ddal am 24 oddi ar fowlio Michael Hogan - 600fed wiced y bowliwr cyflym o Awstralia mewn gemau dosbarth cyntaf.

Ond dim ond gohirio'r anochel oedd hynny.

Ni ddaeth y tywydd i achub Morgannwg, ac fe lwyddodd Northants i gyrraedd y nod gyda chwe wiced wrth gefn.

Mae'r canlyniad yn gadael Morgannwg ar waelod eu grŵp yn Nhlws Bob Willis.

Bydd gêm nesaf Morgannwg yn y gystadleuaeth T20 nos Iau, 27 Awst, a hynny gartref yn erbyn Sir Gaerwrangon.

Sgor terfynol

Morgannwg - batiad cyntaf = 259

ail fatiad = 261

Northants - batiad cyntaf = 322

ail fatiad = 192 am 4 wiced