Dod o hyd i offer canŵio wrth chwilio yn Afon Taf
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De wedi dod o hyd i offer wrth iddyn nhw chwilio yn Afon Taf yn dilyn adroddiadau fod canŵ wedi troi drosodd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Ffynnon Taf - i'r gogledd o Gaerdydd - am 09:48 fore Mawrth.
Er i'r chwilio barhau drwy'r dydd, ni ddaeth y gwasanaethau brys o hyd i unrhyw un a bu'n rhaid gohirio'r chwilio dros nos.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sy'n adnabod yr offer yn y llun uchod i gysylltu â nhw.
Maen nhw hefyd yn gofyn i unrhyw un oedd yn, neu'n agos i Afon Taf yn Ffynnon Taf am tua 09:45 fore Mawrth, i gysylltu gyda nhw, rhag ofn bod rhywun arall wedi camgymryd eu bod nhw mewn trafferth.
Dywed yr heddlu hefyd y dylai bobl gadw draw o afonydd oherwydd y tywydd garw, sydd wedi'i achosi gan Storm Francis.
Mewn digwyddiad ar wahân, roedd y gwasanaethau brys hefyd yn cynorthwyo yn dilyn adroddiadau fod unigolyn wedi mynd i mewn i'r afon ger Stadiwm Principality ychydig cyn 08:40.
Cafodd menyw ei hachub o Afon Trelái yn ardal Lecwydd fore Mawrth, yn dilyn adroddiadau fod rhywun mewn trafferthion.