Pryder am effaith amgylcheddol olew ddaeth o drên

  • Cyhoeddwyd
Tren
Disgrifiad o’r llun,

Daeth 10 o danciau tanwydd oddi ar y cledrau nos Iau

Mae ymchwiliadau wedi dechrau i geisio dod o hyd i achos y digwyddiad ble daeth trên - a hyd at 755 o dunelli o danwydd - oddi ar y rheilffordd yn Sir Gâr gan achosi tân mawr.

Daeth 10 cerbyd oddi ar y traciau - pob un yn cario hyd at 75.5 tunnell o ddisel neu olew nwy.

Fe wnaeth tanwydd o'r trên hefyd lifo i Afon Llwchwr gerllaw, gan achosi pryderon amgylcheddol.

Bellach mae'r tân wedi'i ddiffodd, ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi trosglwyddo'r safle i ofal Heddlu Trafnidiaeth Prydain a Network Rail ar gyfer yr ymchwiliad.

Dywedodd y gwasanaeth tân bod un criw yn parhau ar y safle ddydd Gwener yn sicrhau nad yw'r fflamau'n ailgynnau.

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r cerbydau ddaeth oddi ar y cledrau

Dywedodd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd ddydd Gwener fod 25 tanc - yn pwyso hyd at 100 tunnell yr un - yn cael eu cludo gan y trên a bod 10 o'r rheiny wedi dod oddi ar y cledrau.

Fe achosodd hyn "ollyngiad sylweddol o danwydd a thân mawr", meddai llefarydd.

Dywedodd y gangen fod ymchwiliad wedi dechrau ac y bydd adroddiad yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Ffynhonnell y llun, Steve Liddiard
Disgrifiad o’r llun,

Mae tanwydd o'r trên wedi llifo i Afon Llwchwr gerllaw

Daeth y cerbydau oddi ar y traciau am tua 23:15 nos Fercher ar y daith o Aberdaugleddau i Theale, ger Reading.

Roedd dau weithiwr ar y trên ar y pryd ond ni chafodd yr un ohonyn nhw unrhyw anafiadau.

Cafodd tua 300 o bobl eu gorfodi o'u cartrefi gerllaw yn dilyn y digwyddiad, cyn cael dychwelyd fore Iau.

Pryder amgylcheddol

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod maint "sylweddol" o ddisel wedi colli, gydag ychydig wedi mynd i Afon Llwchwr.

Fe ddaeth y trên oddi ar y traciau yn agos at aber Afon Llwchwr, sy'n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin.

Dywedodd CNC ddydd Iau nad oedd hi'n ddiogel i'w weithwyr fynd yn ddigon agos at y safle i atal lledaeniad y tanwydd am fod y tân yn dal i losgi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae aber Afon Llwchwr yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Bae ac Aberoedd Caerfyrddin

Mae pryder y gallai'r digwyddiad gael effaith ar bobl sy'n dibynnu ar yr ardal am eu bywoliaeth, fel helwyr cocos.

Dywedodd Robert Griffiths, sydd wedi bod yn casglu cocos am 25 mlynedd, bod pobl sy'n gweithio ar y gwelyau cocos yn "bryderus iawn".

"Os does 'na ddim modd gweithio, does 'na ddim tâl - dyna natur bod yn hunangyflogedig," meddai wrth Radio Wales fore Gwener.

"Rwy'n siŵr y gall rhywun - cwmni yswiriant y trên efallai - ein digolledu ni mewn rhyw ffordd, oherwydd mae'n bywoliaeth ni yn cael ei effeithio gan rywbeth sydd allan o'n rheolaeth.

"Mae'r bysgodfa wedi cael ei gau am amser amhenodol - diogelwch pobl a'r cocos ydy'r peth pwysicaf felly mae'n well ei gau fel nad oes unrhyw un mewn perygl."