Beirniadu ymddygiad 'anghyfrifol' pobl mewn ref
- Cyhoeddwyd
Mae plismyn wedi beirniadu ymddygiad "anghyfrifol" pobl mewn ref a oedd yn cynnwys oddeutu tair mil o bobl yn ardal Banwen ar gyrion Bannau Brycheiniog.
Dywed Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Matt Jukes,nad yw erioed "wedi gweld digwyddiad ar y raddfa yma" o'r blaen ac ar gyfrif Twitter ychwanegodd "wedi aberth pawb yn ystod Covid mae hyn yn gwbl annerbyniol".
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywed Heddlu De Cymru y gallai cerbydau gael eu symud.
Mae cyfyngiadau Llywodraeth Cymru ond yn caniatáu i hyd at 30 o bobl i gyfarfod tu allan.
"Mae'r rhai sy'n cyfarfod yn gynulleidfa niferus ac yn ymddwyn yn anghymdeithasol yn gwybod bod eu gweithrediadau yn anghyfrifol," meddai'r llu.
"Ry'n yn erfyn ar rieni a gwarchodwyr pobl ifanc i sicrhau eu bod yn gwybod lle mae eu plant a be maen nhw'n ei wneud.
Dywedodd Jill Molen sy'n byw ym mhentref Banwen bod y parti yn "ofnadwy".
"Doedden ni ddim yn gallu cysgu o gwbl - roedd yna bobl yn defnyddio'r stryd fel tŷ bach ac yn gweiddi a sgrechian.
"Roedd y sŵn yna drwy'r amser - sŵn curo a bangio parhaus. Roedd e'n ofnadwy.
"Ry'n wedi bod yn dda iawn yn cadw pellter cymdeithasol yn ystod Covid - mae hyn yn difetha'r cyfan."
Cerddoriaeth curiad trwm
Mae Jamie Bowen yn byw yn Resolfen ryw 14 milltir o'r digwyddiad a dywed ei fod yn gallu "clywed cerddoriaeth andros o uchel" mor gynnar â 03:00.
"Dwi'n sicr bod yna lawer o gwynion," meddai.
"Mae e yn y mynyddoedd yn rhywle ac mae'r sŵn yn dod tuag at lawr.
"Mae'r gerddoriaeth yn cynnwys curiad trwm parhaol."
Dywedodd yr Uwch Arolygydd Simon Belcher o Heddlu De Cymru: "Mae'r math yma o ymgasglu anghyfreithlon yn gwbl annerbyniol ac ry'n yn ymwybodol o bryderon y gymuned leol.
"Amcangyfrifir bod 3,000 o bobl wedi dod i'r digwyddiad a'u bod wedi teithio o bob rhan o'r DU. Ry'n yn edrych ar hyn o bryd ar bob deddfwriaeth er mwyn gweithredu'n ddiogel.
"Byddwn yn delio â phob cerbyd sydd wedi parcio yn anghyfreithlon a bydd unrhyw un sy'n ceisio dod i'r digwyddiad yn cael ei hel oddi yma."
Ddydd Mercher fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys ddefnyddio pwerau arbennig i chwalu 200 o bobl ifanc a oedd wedi ymgasglu ym Mhorth Tywyn ger Llanelli.
Dywed plismyn bod gwybodaeth arbenigol yn peri iddyn nhw gredu bod mwy o ddigwyddiadau tebyg wedi'u cynllunio ar benwythnos gŵyl y banc.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Awst 2020
- Cyhoeddwyd18 Awst 2020