Covid-19: 16 wedi profi'n bositif wedi hediad o Zante
- Cyhoeddwyd
Mae o leiaf 16 o bobl bellach wedi profi'n bositif am Covid-19 ar ôl teithio ar awyren o un o ynysoedd Gwlad Groeg i Gaerdydd wythnos diwethaf, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae swyddogion yn y broses o gysylltu â'r 193 o bobl a deithiodd ar awyren y cwmni teithio Tui o Zante i Gymru ddydd Mawrth diwethaf.
Mae un o'r bobl oedd ar yr awyren wedi dweud wrth y BBC nad oedd llawer o'r teithwyr yn gwisgo mygydau.
Dywedodd Tui fod cwsmeriaid yn cael eu hysbysu o'r rheolau cyn teithio, ond eu bod bellach yn cynnal ymchwiliad i'r honiad.
"Traed moch"
"Roedd yr hediad yn draed moch," meddai Stephanie Whitfield, oedd yn teithio ar hediad 6215 gyda'i gŵr, mewn cyfweliad gyda'r BBC.
"Roedd y dyn nesa ata'i â'i fwgwd o amgylch ei wddf. Roedd llwyth o bobl yn tynnu eu mygydau ac yn crwydro i fyny ac i lawr yr eiliau i siarad gyda phobl eraill.
"Gynted a laniodd yr awyren, fe dynnodd llwyth o bobl eu mygydau yn syth."
Ychwanegodd bod hi a'i gŵr wedi penderfynu hunan-ynysu cyn dod i wybod am achosion positif o'r feirws ymhlith y bobl oedd ar yr awyren.
Erbyn hyn maen nhw'n trefnu prawf coronafeirws ar ôl dechrau cael symptomau ysgafn.
Dywedodd Tui mewn datganiad ddydd Llun: "Mae ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal erbyn hyn gan na chafodd y pryderon hyn eu hysbysu yn ystod yr hediad na chyn heddiw."
Mae'n cwmni'n mynnu fod eu staff "wedi eu hyfforddi'n unol â'r safonau uchaf.
"Mae teithwyr yn cael eu hysbysu cyn teithio a thrwy gyhoeddiadau ar yr hediad fod rhaid gwisgo mygydau gydol y daith, a'u bod ddim yn cael symud o amgylch y cabin."
Ychwanegodd y datganiad mai dim ond wrth fwyta ac yfed y mae caniatâd i dynnu mygydau.
'Mewnforio'r haint yw'r risg uchaf'
Dywedodd Dr Giri Shankar, o Iechyd Cyhoeddus Cymru fod honiadau Ms Whitfield "yn destun pryder" ac yn "cyfiawnhau ein hasesiad risg yn nhermau gofyn i bawb ar yr hediad - y teithwyr a'r criw - i hunan-ynysu".
O'r saith achos cyntaf a gafodd eu cadarnhau - unigolion o dri grŵp gwahanol, oedd â'r potensial i fod yn heintus - dywedodd eu bod wedi'u gwasgaru mewn seddi ymhob rhan yr awyren.
Pwysleisiodd pa mor bwysig yw hi i deithwyr fod yn "gyfrifol i'w hunain a chyd-deithwyr" a dilyn rheolau diogelu iechyd.
"Rydym yn gweld nifer cynyddol i bobl yn dychwelyd o'u teithiau o'r cyrchfan yna yn benodol sy'n cael eu heintio."
"Dyw Gwlad Groeg a'r ynysoedd Groegaidd ddim ar restr y gwledydd ble mae disgwyl i bobl fod mewn cwarantîn ar ôl dychwelyd, ond credwn yn gryf, o ystyried niferoedd achosion, mai mater o amser yw hi cyn ystyried hynny o ddifri."
"Rhaid bod yn ofalus iawn i beidio ildio'r buddion rydym wedi'i sicrhau. Dyw coronafeirws heb ddiflannu."
"Mewnforio'r haint o'r tu allan, yn enwedig o deithiau tramor, fydd y ffactor risg mwyaf o hyd, o ran cynnal cylchrediad ehangach yma yng Nghymru.
"Rydym yn gwybod fod 16 o deithwyr wedi profi'n bositif o'r hediad yna, ond dyw hynny ddim yn golygu bod pob un wedi cael eu heintio yn ystod yr hediad.
Mae'n berffaith bosib eu bod wedi eu heintio yn Zante... ac mae nawr mae'n amlygu ei hun. Rydym yn gofyn i bawb oedd ar yr hediad i hunan-ynysu tan 9 Medi."
Dywedodd Maes Awyr Caerdydd, sydd dan berchnogaeth Llywodraeth Cymru, eu bod yn gweithio'n agos gyda chwmnïau hedfan i hwyluso teithio mewn "cyfnod heriol i'r diwydiant" ac yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Swyddfa Dramor a Llywodraeth y DU
Ychwanegodd prif weithredwr dros dro'r maes awyr, Spencer Birns, eu bod "eisoes wedi cymryd sawl mesur i sicrhau diogelwch ein tîm ac ein cwsmeriaid, sef ein prif flaenoriaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2020