Gareth Bale: 'Real Madrid yn ei gwneud yn anodd gadael'

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bale gyda charfan Cymru yn Helsinki, ble byddan nhw'n herio'r Ffindir nos Iau

Mae ymosodwr Cymru, Gareth Bale yn dweud y byddai'n agored i ddychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr, ond bod Real Madrid yn ei gwneud yn "anodd" iddo adael.

Ag yntau'n rhwystredig yn chwarae cyn lleied ym Madrid, daeth Bale yn agos at symud i China y llynedd cyn i Real benderfynu atal y trosglwyddiad.

Mae clybiau eraill â diddordeb arwyddo'r chwaraewr 31 oed, ond mae asiant Bale wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn "mynd i unman".

Mae Bale gyda charfan Cymru yn Helsinki wrth iddyn nhw baratoi i herio'r Ffindir yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Iau.

'Mae e lan i'r clwb'

"Fe wnes i geisio gadael y llynedd ond fe wnaethon nhw [Real Madrid] atal popeth ar yr eiliad olaf," meddai Bale ddydd Mercher.

"Mae 'na enghreifftiau arall ond dyw'r clwb ddim yn rhoi caniatâd neu rywbeth felly - mae e lan i'r clwb.

"Rydw i eisiau chwarae - rwy'n dal yn awyddus i chwarae pêl-droed. Rwy'n 31 ond mewn cyflwr grêt ac rwy'n teimlo bod gen i lawer i'w gynnig.

"Fe gawn ni weld be wneith ddigwydd. Mae e yn nwylo'r clwb ac maen nhw'n gwneud pethau'n anodd iawn a bod yn onest."

'Amser a ddengys'

Bale sy'n ennill y cyflog mwyaf yng ngharfan Real ar hyn o bryd - y gred yw ei fod yn ennill tua £600,000 yr wythnos, a dyw ei gytundeb ddim yn dod i ben nes 2022.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai ganddo ddiddordeb dychwelyd i chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr, dywedodd Bale: "Dyw e ddim yn fy nwylo i a dweud y gwir.

"Pe bai'r cyfleoedd hynny'n codi, fe fyddwn i'n siŵr o ystyried y peth. Cawn weld beth fydd yn digwydd.

"Mae gennym ddigon o amser yn y cyfnod trosglwyddo yma, a chwpl o rai eraill hefyd.

"Amser a ddengys - mae'r penderfyniad yn nwylo Real Madrid."