Hiraeth am Y Wal Goch

  • Cyhoeddwyd
Lluniau o Ffion ar dripiau cefnogi CymruFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn post cefnogwr - Ffion yn dilyn Cymru dros y blynyddoedd diwethaf

Mae dilyn tîm pêl-droed Cymru yn rhan bwysig o fywyd Ffion Eluned Owen, ac mae hi wedi teithio'r byd fel cefnogwr.

Heno fydd hi na gweddill Y Wal Goch yn gallu bod yn Helsinki i annog y chwaraewyr yn erbyn Y Ffindir, a heb wybod pryd fydd y trip nesaf, mae 'na hiraeth am yr hwyl a'r cyffro, a phryder am yr effaith ar y tîm.

Hei... Yksi olut kiitos... Anteeksi, missä on stadion?

Dyma rai o'r ymadroddion yr oeddwn wedi dychmygu y byddwn eu hangen heddiw.

Byddwn wedi bod ar y tram, wedi cerdded ar y prom, wedi prynu yn y farchnad, wedi blasu'r bwyd môr ac efallai wedi cael cyfle hyd yn oed i ymlacio mewn sauna!

Byddwn erbyn hyn yn mwynhau un (neu ddau neu dri) olut neu lonkero wrth floeddio canu Yma O Hyd neu Don't Take Me Home yn undonog yn un o'r bariau, yn barod i ymlwybro'n igam ogam i gyfeiriad Stadiwm Olympaidd Helsinki i fod yn un o'r wal goch, groch honno. Pawb yn eu hwyliau gorau wrth fwynhau'r daith dramor gyntaf i gefnogi Cymru ers yr Ewros.

Ond doedd 'na ddim Ewros wrth gwrs. A does 'na ddim taith i 'run Helsinki am y tro.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Un fricsan yn y Wal Goch - Ffion efo'i ffrindiau yn mwynhau haul Toulouse yn Ewro 2016

Yn naturiol, dydi hi ddim yn gwneud synnwyr i gefnogwyr fod yn hedfan ar draws Ewrop ar hyn o bryd, yn yfed a chanu gyda'n gilydd mewn bariau cyfyng, neu'n neidio blith draphlith ar draws ein gilydd wrth ddathlu peniad gan Kieffer Moore.

Ond mae'n deimlad swreal iawn meddwl am Gymru'n chwarae gêm bêl-droed, a pheidio bod yno. Beth petai Chris Gunter yn sgorio ei gôl gyntaf dros ei wlad, a neb yno i ddathlu a chrïo mewn llawenydd?

Fel y dywedodd un o ddilynwyr pennaf Cymru, Rhys Hartley, ar Twitter wythnos diwethaf, dwi ddim yn siŵr os dwi'n gwybod sut i'n cefnogi ni ar y teledu! Bydd fel dyddiau ysgol unwaith eto; Caerdydd yn rhy bell i deithio yno yn ystod yr wythnos a fy chwaer a minnau yn ffraeo dros y sedd orau o flaen y teli!

Mwy na gêm

'Da ni'n dilyn Cymru'n bennaf i fod yn dyst i'r goliau a'r sgiliau - a'r siomedigaethau - ar y cae pêl-droed, ond mae cymaint mwy na hynny sy'n fy hudo i'n ôl, daith ar ôl taith.

Ers blynyddoedd bellach, lleoliad gemau oddi-cartref Cymru sy'n penderfynu ar ein gwyliau. Mae'n gyfle i weld dinasoedd gwahanol a phrofi diwylliannau amrywiol - gan wybod bod 'na gyfle go dda y glywa' i'r Gymraeg cyn gadael y gwesty ac y gwela' i fy nghefnder y tu allan i'r stadiwm!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y cefnogwyr yn un teulu mawr... Ffion gyda'i chwaer Llio a'u cefnder Dylan yn Denmarc

Wythnos yn China. Tridiau yn Tirana, Albania. Taith a hanner i Tbilisi, Georgia. A'r trip olaf hirfaith hwnnw i Baku, Azerbaijan fis Tachwedd diwethaf.

Gwledydd a dinasoedd na feddylies i erioed y byddwn yn ymweld â nhw. Rhai o'r tripiau hyn efo'm cariad a bois Aber, rhai eraill gyda chriw arbennig o genod, lle mae 'na wastad lawer o chwerthin a sawl stori gofiadwy ar ôl un botel win yn ormod.

Mae hwyl ac undod neilltuol yn perthyn i gymuned cefnogwyr Cymru'r blynyddoedd diwethaf, a chyfle unigryw i ddod i adnabod pobl o bob cwr o'r wlad, gan wybod i sicrwydd y gwelaf i nhw eto yn y ddinas nesa', a'r nesa' wedyn.

Ychydig bach fel 'Steddfod, mond ei fod yn digwydd sawl gwaith y flwyddyn!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ffion efo'i ffrindiau yn Tbilisi, Georgia

Pwysigrwydd y cefnogwyr i'r tîm

Dwi'n methu'r edrych ymlaen. Methu'r benbleth o benderfynu pa grysau Cymru a pha het Spirit of 58 i'w pacio. Methu cael pendroni tybed pa gefnogwyr eraill fydd ar yr awyren efo ni. Methu'r sgyrsiau hynny ar y noson gyntaf i gymharu'r daith ac i ddal fyny.

Methu'r cyfeillgarwch a'r Gymraeg a'r Saesneg sy'n plethu'n naturiol mewn sgwrs a chân. Methu'r hwyl a'r atgofion sydd heb eu creu eto. Methu crwydro dinasoedd newydd ac ateb cwestiynau am Gymru a'r Gymraeg. Methu'r holl broffwydo niwlog am sgôr a chwaraewyr noson cyn gêm. Methu nhw'n fwy ella am nad ydym ni'n gwybod pryd y cawn ni eu gwneud nhw eto.

Boed mewn cornel stadiwm ym mhellafion Ewrop neu'n llenwi Stadiwm Dinas Caerdydd, nid gor-ddweud ydi'r holl sôn am bwysigrwydd ni'r cefnogwyr i dîm Cymru.

Meddyliwch am wefr yr anthem sy'n cael ei chanu'n ddigyfeiliant yn ein gemau cartref. Meddyliwch faint o weithiau dros y blynyddoedd diwethaf mae Ashley Williams neu Gareth Bale wedi troi atom yn ystod y munudau olaf gydag ystum eu breichiau i godi ein sŵn. Meddyliwch pa mor sydyn mae ein caneuon ni yn treiddio i hwyl a rhialtwch y chwaraewyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fydd neb o gefnogwyr Cymru yn gallu rhoi croeso aelodau newydd y sgwad - Neco Williams a Ben Cabango

Yn anffodus fydd 'na neb i ddathlu atgyfodiad Hal Robson-Kanu na chyfansoddi caneuon newydd i Neco Williams a Ben Cabango yn Helsinki heno, a dim ond y dreigiau ar y fflagiau fydd yn rhuo i gyfeiliant mud y Barry Horns yn stand y Canton b'nawn Sul. Bydd yn rhaid i ddoniau'r chwaraewyr wneud y sŵn i gyd y tro hwn.

Onnea Gymru - pob lwc! A Gunter, os ydi sgorio'r gôl 'na yn sicrhau 3 phwynt i ni, cer amdani! `Bydd yn rhaid i ni fodloni ar ddawnsio yn ein crysau cochion a'n bucket hats ar hyd strydoedd Groeslon a Llanrug, Rhosesmor a Rhos on Sea, Bagillt a Beddau am y tro.

Hefyd o ddiddordeb: