Anafiadau i Gymru cyn gêm Cynghrair y Cenhedloedd

  • Cyhoeddwyd
Ryan Giggs gyda chwaraewyr CymruFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Bydd Cymru heb nifer o enwau cyfarwydd cyn eu gêm agoriadol yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn Helsinki nos Iau.

Fe wnaeth Aaron Ramsey, David Brooks, Tyler Roberts ac Ashley Williams i gyd dynnu nôl o'r garfan ddydd Sul.

Roedd Joe Allen, Chris Mepham, James Chester a Joe Rodon eisoes yn absennol pan gafodd y garfan wreiddiol ei chyhoeddi'r wythnos ddiwethaf.

Cafodd Ben Woodburn a Brennan Johnson eu dyrchafu o'r garfan dan-21, gyda Johnson yn un o dri enw newydd yn y brif garfan gyda Neco Williams a Ben Cabango.

Gallai Hal Robson Kanu ennill ei gap cyntaf ers 2017 wedi iddo newid ei feddwl am ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Bydd Cymru'n herio'r Ffindir nos Iau am 19:45 cyn dod adre yn barod i groesawu Bwlgaria i Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul am 14:00.

Colli Ramsey yw'r ergyd fwyaf i Ryan Giggs. Chwaraewr Juventus sgoriodd y ddwy gôl yn y fuddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Hwngari a sicrhaodd le i Gymru yn Euro 2020 - gêm ddiwethaf Cymru.

I'r Ffindir, dyw'r amddiffynnwr Paulus Arajuuri nawr ddim yn chwarae oherwydd anaf.

Mae'n debygol mai Teemu Pukki fydd yn arwain yr ymosod wedi i ymosodwr Norwich City sgorio 10 gôl yn ymgyrch lwyddiannus y Ffindir i gyrraedd Euro 2020.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Teemu Pukki wedi sgorio 25 o weithiau mewn 80 gêm i'r Ffindir

Nos Iau fydd y gêm gyntaf i Gymru ers Tachwedd 2019 yn dilyn y bwlch a orfodwyd gan coronafeirws.

Mae'r bwlch rhyngwladol wedi rhoi cyfle i garfan ifanc Cymru i gael blwyddyn ychwanegol o brofiad gyda'u clybiau cyn Euro 2020, sydd wedi'i ohirio tan 2021.

'Teimlad da'

Dyna fydd prif ffocws Ryan Giggs, ond am nawr mae Cynghrair y Cenhedloedd yn flaenoriaeth wrth edrych ymlaen at Gwpan y Byd 2022.

Mae Cymru yng Ngrŵp 4 ynghyd â'r Ffindir, Gweriniaeth Iwerddon a Bwlgaria.

Dywedodd Ryan Giggs fod yna "deimlad da" o gwmpas y garfan yr wythnos hon.

"Dy'n ni heb weithio gyda'n gilydd ers bron 10 mis. Mae rhai wynebau newydd, a rhai sy'n hŷn - mae'n gyfle i bawb wneud eu marc cyn y 12 mis enfawr sydd o'n blaenau," meddai.